Choose language | Dewis iaith
gb cy
Theatr Brycheiniog, Brecon

BOX OFFICE | SWYDDFA DOCYNNAU  01874 611622

DROP US A LINE | ANFONWCH AIR ATOM
  • Menu
  • Hafan
  • Beth sy’n digwydd
  • Eich ymweliad
    • Diweddariad Swyddfa Docynnau
    • Diweddariad COVID
    • Taith rithwir
    • Hygyrchedd
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Staff
    • Cwrdd ag Aelodau’r Bwrdd
    • Swyddi Gwag
    • Llogi’r Lle
  • Bwyd a Diod
  • Yr oriel
    • Arddangosfa Bresennol
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
    • Arddangosfeydd y Dyfodol
  • Cefnogi ni
    • Pam dod yn Ffrind
    • Pam dod yn Noddwr
      • Cwrdd â’r Noddwyr
      • Digwyddiadau Noddwyr
    • Rhoi wrth Fyw
    • Cyfrannu
    • Keep Your Seat Warm
  • Cymryd Rhan
    • Cymryd Rhan
      • Sesiynau Canu Uplift
      • Gofal Cefn Arddull Pilates
      • Ymdrwytho’r Corff Arddull Pilates
      • Academi Ddawns Canolbarth Cymru
      • Band Cyngerdd Tref Aberhonddu
      • Y Gymdeithas Gelfyddydol: Brycheiniog
      • University of the 3rd Age
      • Yoga
    • Gwirfoddoli

Diweddariad Diweddaraf oddi wrth Theatr Brycheiniog

 

TB_theatre_small.jpg

Annwyl gyfeillion

Rydym wedi derbyn cymaint o negeseuon cefnogol a gwyddom fod ein cynulleidfaoedd a’n hymwelwyr yn meddwl yn gynnes amdanom, felly rydyn ni’n obeithiol, er yn ofalus, o ran sut fyddwn ni’n datblygu cynlluniau a’n dulliau o weithio.

Yn ystod y pandemig hyd yn hyn rydyn ni wedi:

  • Cynnal tîm dawns proffesiynol Gŵyl Bale Aberhonddu, a gafodd ganiatâd i gynnal wythnos ymarfer gymeradwy ym mis Awst 2020
  • Ailagor lefel o wasanaeth y caffi hefyd ym mis Awst, a pharhau pan oedd hawl gwneud drwy gydol yr hydref.
  • Darparu mynediad defnyddiol iawn i gyfleusterau tŷ bach, yn unol â’n hamseroedd agor ar gyfer y gwasanaeth caffi
  • Hwyluso sawl dosbarth i ailddechrau a chynnal gweithgareddau diogel gyda’n cymuned, cwmnïau ac aelodau.
  • Darparu lleoliad diogel a saff rhag Covid ar gyfer ffilmio, ymarfer a darparu gwaith i hunan-liwtwyr pan oedd hynny’n bosib.

Bellach mae gennym gynlluniau i agor ein caffi diwylliant cyn gynted ag y bydd mesurau’n caniatâu hynny.

CAFFI DIWYLLIANT

Fe wnaethon ni gynnal galwad agored i artistiaid a dylunwyr, gan recriwtio hunan-liwtiwr i gefnogi datblygu gofod a guradwyd yn artistig ar ein llwyfan ac yn ein hawditoriwm.

Mae Theatr Brycheiniog wrthi ar hyn o bryd yn symud cyfleuster y caffi i lawr gwastad yr awditoriwm er mwyn gallu cynyddu ein mesurau diogelwch COVID ar gyfer ymwelwyr â’r Theatr a Basn y Gamlas. Ein bwriad yw agor ein Caffi Diwylliant cyffrous cyn gynted ag y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru’n caniatâu. Mae gosodiad y Caffi Diwylliant yn ddathliad o’r myrdd pobl ragorol a fyddai fel arfer yn defnyddio’r lle yn Theatr Brycheiniog. Mae trawstoriad llawn o gymuned Aberhonddu’n defnyddio’r theatr ar gyfer gweithgareddau lluosog, o Tai Chi i Ddrymio Taiko, Dawnsio Bale i Ymarferion y Band. Tra bo’r theatr dan amodau defnydd cyfyng, ni all y grwpiau hynny fod mor bresennol ag y dymunen nhw. Mewn ymateb i hyn, mae’r arSst a’r dylunydd theatr Harry Pizzey wedi creu gosodiad sy’n darlunio dros chwe deg o aelodau cymuned Theatr Brycheiniog o blith deunaw o grwpiau defnyddwyr gwahanol, gan beri eu bod yn bresennol yn yr adeilad unwaith eto. Arddangosir y portreadau hyn yn yr awditoriwm mewn bwa glas enfawr fel awyr, i atgoffa pawb o’r ystod anhygoel o weithgareddau a phobl a fyddai fel arfer yn presenoli’r theatr, ac a fydd yn parhau i wneud pan godir y cyfyngiadau.

Byddwn ni’n cynnig lle hardd, dathliadol i weini diodydd poeth ac oer, byrbrydau ysgafn mewn pecynnau parod, a detholiad o ddanteithion melys, cynnyrch toes a theisennau. Perffaith ar gyfer yr hwb sydd ei angen ar bawb ohonom.

Y bwriad i gychwyn fydd agor rhwng 11am a 3pm, ond wrth i fesurau ganiatâu, ac wrth i ni gyfarwyddo gyda dulliau newydd o weithio, y gobaith fydd gweld ymestyn yr oriau hyn.

Wrth i ni dyfu a datblygu i’n horiau newydd, efallai y bydd angen cymorth staff ychwanegol o hyd, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, rhowch wybod i ni drwy ffonio 01874 611 622neu anfon e-bost at lisa@brycheiniog.co.uk neu mae croeso i chi alw i mewn pan fydd gennym hawl i ailagor.

Perfformiadau, Awditoriwm a’r swyddfa docynnau

Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob aelod o’n cynulleidfa, ac yn falch o’ch amynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ond, bydd yn rhaid i chi barhau i fod yn amyneddgar am ychydig hirach eto, wrth i ni baratoi’r Theatr ar gyfer system haenau Llywodraeth Cymru. Fel sy’n ofynnol i ni dan gyfyngiadau Haen 4, rhaid i’r Theatr aros ar gau, ond mae’n bosib y gallwn ailagor ar gyfer digwyddiadau pan gyhoeddir ein bod yn Haen 2. Nodwch os gwelwch yn dda ei bod hi’n debygol y bydd rhai cyfyngiadau ac amodau’n berthnasol, ac y gall gymryd rhyw gymaint o amser i ni greu ymatebion i rai mesurau. Hoffem ofyn am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae pob perfformiad a sioe sy’n gallu cael eu gohirio yn cael eu hail-amserlennu, a’n cynllun ar hyn o bryd yw ailagor erbyn yr hydref ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau. Yn ein hymateb i hyn, byddwn ni’n bellach yn darparu staffio cyfyngedig yn y swyddfa docynnau i ymgymryd â’r gwaith gweinyddol angenrheidiol o ail-amserlennu a phopeth yn ymwneud ag archebu. Byddan nhw’n dechrau cysylltu â chwsmeriaid i drefnu cyfnewid tocynnau i ddyddiadau newydd ar y cyfle cyntaf. Byddem ni’n ddiolchgar am eich amynedd wrth i ni weithio drwy’r gwaith hwn.

Gallwn eich sicrhau y bydd eich tocynnau’n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd yn awtomatig, ac wrth gwrs os na allwch chi fynychu bryd hynny, yna bydd ad-daliad yn ddyledus i chi.

Wedi dweud hynny, rydyn ni mewn cyfnod eithafol, a phan fydd ein swyddfa docynnau’n ailagor, os bydd canran fawr o’n cynulleidfaoedd yn gofyn am ad-daliad, gallai hynny gymryd amser maith i ni ei gyflawni, neu hyd yn oed ein taflu i drafferthion ariannol mwy dybryd fyth.

Os oes angen ad-daliad arnoch, rhowch eich holl fanylion i’r Swyddfa Docynnau pan fyddan nhw’n eich ffonio. Bydd pob ad-daliad yn cael ei symud ymlaen yn fewnol i’r Tîm Cyllid a fydd wedyn yn prosesu eich ad-daliad cyn gynted â phosib. Cofiwch mai dim ond yn raddol y bydd ein staff Cyllid yn cael eu tynnu oddi ar ffyrlo, ac mae’n bosib y bydd pob aelod o’n staff yn gweithio oriau cyfyngedig.

Hoffem erfyn arnoch ar yr adeg heriol hon i ystyried cyfrannu costau eich tocynnau i Theatr Brycheiniog os nad oes bwriad gennych i ailfynychu, neu efallai y gallech ystyried un o’r ffyrdd eraill y gallech ddangos eich cefnogaeth i’r Theatr a’r gwaith a wnawn.

Mae eich cefnogaeth yn amhrisiadwy, a bydd yn ein galluogi ni i barhau; er mwyn gwneud hyn mor hawdd â phosib, rydym wedi amlinellu pedair ffordd y gallwch chi helpu nawr.

Rhoi wrth fyw

Pam dod yn Ffrind

Pam dod yn Noddwr

Our address | Ein cyfeiriad

Theatr Brycheiniog
Canal Wharf
Brecon
Powys
LD3 7EW

Charity number | Rhif elusen 1005327

Telephone us | Ffonio ni

Box Office | Swyddfa docynnau
01874 611622

Administration | Gweinyddiaeth
01874 622838

Privacy policy and GDPR compliance

Supported by | Cefnogir gan...


© 2021 Theatr Brycheiniog
Sign In to Edit this Site
purpleandgreen