Academi Ddawns Canolbarth Cymru
Sefydlwyd yr ysgol ers dros 20 mlynedd, ac mae’n cynnal dosbarthiadau bale, tap, modern a dawns stryd ar gyfer plant o 3 oed hyd at oedolion. Cynhelir dosbarthiadau cynradd ar fore Sadwrn, a’r dosbarthiadau hŷn bob diwrnod gwaith ar ôl ysgol. Mae pob un o’n hathrawon wedi cymhwyso’n llawn a’u gwirio gan DRB, ac rydym ni’n dilyn maes llafur yr Academi Ddawns Frenhinol ar gyfer arholiadau.
Rydym hefyd yn cynhyrchu sioe flynyddol o’n gwaith ym mis Gorffennaf ar lwyfan y theatr. Chorus Line yw ein grŵp drama sy’n cwrdd ar brynhawn Sadwrn ac sy’n croesawu myfyrwyr 7 oed a hŷn.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan neu e-bostiwch ni ar info@mwda.co.uk neu ffoniwch 01874 623219