HYGYRCHEDD
Mae Theatr Brycheiniog yn gweithio er mwyn ceisio dod yn llwyr hygyrch, gyda mynediad gwastad i’r adeilad drwy ddrysau awtomatig a mynediad yn y lifft i bob llawr. Mae gan yr awditoriwm le ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ac mae cyfleusterau tŷ bach ar gyfer ein cwsmeriaid anabl ar bob llawr.
Lle i ddefnyddwyr cadair olwyn ar y llawr gwaelod a’r balconi (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i archebu os gwelwch yn dda am nad yw pob un ar gael i’w harchebu ar lein)
Mynediad gwastad i bob ardal gyhoeddus
Lifft i bob lefel - Nodwch na fydd ein lifft ni’n gweithio tan fis Awst 2024
Toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf
HYNT
Mae Theatr Brycheiniog yn falch o gefnogi Cynllun HYNT. Gall aelodau’r cynllun ddod â gofalwr am ddim i’r rhan fwyaf o berfformiadau (ac eithrio digwyddiadau llog). Cred HYNT yw bod celf a diwylliant ar gyfer pawb ac os oes gennych chi nam neu anghenion mynediad penodol, y dylai mynd i’w weld barhau i fod yn hawdd a hygyrch.
Cofrestrwch i ymuno ar hynt.co.uk. Mae tocynnau gofalwyr HYNT ar gael o’r Swyddfa Docynnau pan ddangoswch eich cerdyn adeg archebu, neu drwy ddyfynnu rhif eich cerdyn dros y ffôn.
Perfformiadau hamddenol
Mae gennym nifer o sioeau sydd hefyd yn cynnwys ‘Perfformiadau Hamddenol’. Dyma addasiadau o’r sioe a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer unrhyw un a allai deimlo fod y profiad theatrig arferol yn ormod iddynt, neu a fyddai’n elwa o amgylchedd mwy hamddenol.
Yn ystod perfformiad hamddenol bydd goleuadau’r tŷ’n parhau ynghyn rhyw ychydig a gellir dileu golau strôb. Mae rhyddid gan y gynulleidfa i fynd a dod fel y mynnant a llacir rheolau am hwyrddyfodiaid. Nid oes gwgu ar wneud sŵn yn ystod perfformiad. Ceir aelodau ychwanegol o staff wrth law i gynorthwyo yn ôl y galw, ac mae’r cast a’r criw’n derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth cyn y perfformiad.
Darperir ardaloedd ymlacio i unrhyw un a allai deimlo fod y perfformiad yn drech na nhw. Bydd y tŷ’n agor yn gynt i roi digon o amser i bawb gyrraedd eu seddi.
Mae Theatr Brycheiniog yn Sefydliad Cyfeillgar i Ddementia ac mae’n parchu anghenion unigolion niwro amrywiol.
Mae croeso arbennig i bobl ag anabledd dysgu neu gorfforol, pobl â chyflwr sbectrwm awtistig neu anawsterau cyfathrebu neu ar y synhwyrau.
Parcio anabl
Mae gennym sawl llew parcio anabl wedi’u clustnodi ar gyfer deiliaid bathodyn anabl yn ein prif faes parcio wrth ochr y theatr. Nodwch fod angen arddangos y bathodyn parcio’n amlwg.
Mynediad cadair olwyn a symudedd cyfyng
Mae gennym fynediad gwastad i bob ardal gyhoeddus. Mae’r lifft yn mynd i bob un o’r tri lefel, gan gynnwys yr Oriel a Bar y Theatr, ac mae tŷ bach hygyrch i gadair olwyn ar bob llawr. Ceir lle ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar lawr gwaelod a balconi’r awditoriwm (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i archebu os gwelwch yn dda am nad yw pob lle ar gael i’w harchebu ar lein.
Cŵn cymorth
Rydyn ni’n croesawu pob ci cymorth. Mae rhai seddi yn ein hawditoriwm yn caniatâu mwy o le i’ch cyfaill pedair coes, holwch y Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth ynghylch pa seddi allai fod yn addas. Mae ein caffi ar y llawr gwaelod hefyd yn gyfeillgar i gŵn a bydd ein staff yn cadw’r bowlen ddŵr yn llawn o ddŵr glân a danteithion i gŵn y tu ôl i’r cownter.
Pobl â nam gweld neu glywed
Rydyn ni’n defnyddio capsiynau cyfyng ble bynnag y bo’n bosib. Gall rhai sioeau a digwyddiadau gynnwys cyfieithiad BSL hefyd. Ewch i’r disgrifiad o’r sioe ar ein gwefan neu’r llawlyfr i gael mwy o wybodaeth. Mae gan Theatr Brycheiniog system dolen sain isgoch. Gellir cael clustffonau o’r Swyddfa Docynnau o ofyn amdanynt.
Theatr Wildcats
Rydym hefyd yn falch o fod yn gartref i Theatr Wildcats, cwmni theatr cynhwysol, ble bydd aelodau’r grŵp yn defnyddio drama, cerddoriaeth, symud a dawns fel modd o gael clust i’w lleisiau.
“Mae Theatr Wildcats yn ffodus iawn o alw Theatr Brycheiniog yn gartref. Rydyn ni’n gwmni drama cynhwysol i oedolion ag anableddau dysgu a byddwn ni’n defnyddio drama, canu a symud i gael clust i’n lleisiau. Rydyn ni’n rhan o deulu Brycheiniog, a bydd pob aelod o staff yn cefnogi ac annog aelodau ein cwmni i gael mynediad llawn i’r Theatr, y Caffi. y sioeau a’r gweithgareddau. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Theatr Brycheiniog a sioeau cymunedol wedi cyflwyno perfformiadau hamddenol a BSL gan alluogi mwy o bobl i fynychu a mwynhau. Bu modd i aelodau cwmni Wildcat ddod i’r sioeau hyn am y tro cyntaf yn gyffyrddus a heb anfantais. Edrychwn ymlaen at weithio rhagor gyda’r Theatr i wneud y lle’n hygyrch i bawb, am y dylai pawb gael cyfle i brofi popeth sydd gan y Theatr i’w chynnig.” Roisin Mellerick, Theatr Wildcats.
Dolen i wefan Theatr Wild Cats, cliciwch yma