PENODI AELODAU NEWYDD O’R BWRDD
Mae Theatr Brycheiniog yn elusen gofrestredig, a dyma’r darparwr celfyddydau perfformio pennaf ym Mhowys, gan gynnal rhaglen uchelgeisiol o waith proffesiynol a chymunedol. Dan gyfarwyddyd ein Cyfarwyddwr Theatr newydd, Eleri B Jones, rydyn ni’n cychwyn ar gyfnod newydd a chyffrous o ddatblygu sy’n cynnwys rhaglen adnewyddu sylweddol, a hefyd ailganolbwyntio ar bopeth a wnawn.
Agorwyd Theatr Brycheiniog ym mis Ebrill 1997, fel y sefydliad celfyddydau cyntaf ym Mhrydain, mewn adeilad newydd ei adeiladu, i’w ariannu’n llwyr gan y Loteri; mae’n cynnwys awditoriwm 477 sedd, caffi a bar, oriel gelf a stiwdio ymarfer. Rydyn ni’n croesawu ymweliadau gan ystod amrywiol o berfformwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Rydym hefyd yn gartref i sawl grŵp theatr, cerdd a dawns cymunedol brwd. Mae gennym uchelgais cyffrous i dyfu’r hyn a wnawn, ac ar yr un pryd i ddyfnhau ein gwytnwch a mynd i’r afael â’r llu heriau sy’n wynebu sefydliadau ar draws y byd celfyddydol.
Mae conglfaen y gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan aelodau o’n bwrdd ymddiriedolwyr. Rydyn ni’n grŵp o wirfoddolwyr gyda chefndiroedd amrywiol iawn sy’n dod ynghyd i sicrhau fod gan y Theatr lywodraethiant cryf ac effeithiol, ac ar yr un pryd yn cynnig cymorth arbenigol pan fo galw i’r Cyfarwyddwr a’i Huwch Dîm Rheoli. Rydym wedi cytuno i gylchdroi aelodau, sy’n gwasanaethu am uchafswm o ddau dymor sy’n para tair blynedd. Felly mae gennym ddiddordeb parhaus mewn clywed oddi wrth ddarpar ymgeiswyr newydd a hoffai gefnogi gwaith Theatr Brycheiniog a’i helpu i wneud gwahaniaeth i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Yn ystod 2024, rydyn ni’n dymuno recriwtio ymddiriedolwyr sy’n meddu ar brofiad sylweddol yn y meysydd canlynol:
Rheoli’r celfyddydau a’u lleoliadau, materion cyfreithiol ac ariannol, adeiladau a chyfleusterau, gwasanaethau’r iaith Gymraeg.
Mae Theatr Brycheiniog yn arbennig o awyddus i ehangu amrywiaeth ei bwrdd, ac felly mae’n awyddus i glywed oddi wrth bobl a dan-gynrychiolir ym maes arwain a chraffu ar sefydliadau celfyddydol.
Yn ogystal â chyfrannu’u hamser a’u harbenigedd, bydd aelodau’r’ Bwrdd yn gweithredu fel llysgenhadon yng nghymuned ehangach Powys, yn ogystal ag yn rhanbarthol a chenedlaethol. Rydyn ni’n dymuno penodi unigolion ymroddedig a fydd yn gallu cyfrannu at lwyddiant cynaliadwy ein sefydliad.
Swydd wirfoddol, ddi-dâl yw bod yn Aelod o’r Bwrdd. Gellir trefnu costau teithio.
Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr
I ddysgu mwy am Theatr Brycheiniog yn gyffredinol ewch yma.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am fod yn aelod o’r Bwrdd, a sut i ymgeisio, cysylltwch os gwelwch yn dda â Hilary Davis, Dirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr: hilary@brycheiniog.co.uk
Byddwn ni bob amser angen Ymddiriedolwyr i wasanaethu, a byddwn wastad yn hapus i glywed oddi wrth unigolion a hoffai gyflwyno’u henw i’w ystyried.
Dylech ymgeisio drwy anfon ffurflen gais lawn ynghyd â llythyr cyflwyno, dros e-bost at Hilary Davis, Dirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr: hilary@brycheiniog.co.uk neu drwy’r post at Hilary Davis, Dirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Theatr Brycheiniog, Glanfa’r Gamlas, Aberhonddu, Powys, LD3 7EW.