Rhoi wrth fyw
Mae Rhoi wrth Fyw yn ffordd hawdd a rhad o godi arian i Theatr Brycheiniog, drwy wneud dim mwy na siopa ar lein. Ar ôl i chi gofrestru drwy eu gwefan, gallwch bori arno i ddewis y siop yr hoffech siopa ynddi. Cliciwch ‘shop now’ i fynd i’w gwefan, ac yna gallwch fwrw ymlaen fel arfer.
Yna bydd Rhoi wrth Fyw yn anfon e-bost atoch o fewn 1-7 diwrnod i roi gwybod i chi faint rydych chi wedi’i godi i Theatr Brycheiniog!
Mae’n hollol rad ac am ddim i gofrestru a siopa, a daw’r cyfraniad heb i chi ychwanegu at y gost o gwbl: rydych chi’n talu am eich siopa arferol, a dim byd arall.