Cyfrannu Os Gwelwch yn Dda
Mae pob swm yn cyfri ac mae’n golygu llawer iawn. Er enghraifft:
- Bydd cyfraniad o £5 yn helpu at gostau deunyddiau i dacluso’r adeilad ar gyfer ailagor.
- Bydd pob £10 yn cyfrannu at ddatblygu rhaglen ar lein i’r dyfodol.
- Bydd cyfraniad o £20 yn ein helpu i fod yn gartref i sefydliadau cymunedol pwysig.
- Bydd rhodd o £50 yn cael ei defnyddio i adnewyddu’r cynteddau, yr awditoriwm a’r cyfleusterau cyhoeddus.
Mae’n hawdd cyfrannu at Theatr Brycheiniog.
Ffyrdd eraill y gallwch ein cefnogi ni
Rydym wedi gwerthfawrogi eich ymweliadau â ni fel aelod o’r gynulleidfa bob amser ond gofynnwn i chi ystyried ymuno ag un o’n cynlluniau aelodaeth eraill a chofrestru gydag un o’r rhain er mwyn cyfrannu at ein dyfodol; mynnwch ein diweddariadau diweddaraf a dangos eich cefnogaeth. Cliciwch yma i fynd i ragor o wybodaeth am ein cynlluniau aelodaeth.
Prynu Tocynnau / Cadw’r Sedd yn Dwym
A fyddech cystal ag ystyried peidio â hawlio ad-daliad ar unwaith, neu gallech drosglwyddo’r gwerth yn rhodd neu’n gredyd yn eich cyfrif tocynnau personol. Byddwn hefyd yn cynnig talebau rhodd a chyn bo hir, lansir ein cynllun ‘Cadw’r Sedd yn Dwym’. Ystyr hyn yw y gallwch roi arian yn eich cyfrif personol i’w ddefnyddio ar gyfer sioeau’r dyfodol – talu rhag blaen am adloniant! os dymunwch.
Rhannu ein cenhadaeth godi arian ar ein rhan!
Rhannwch ein cenhadaeth i godi arian, a rhannwch eich cariad dros y celfyddydau a Theatr Brycheiniog er mwyn ysbrydoli eraill i roi os gwelwch yn dda. Yr unig ffordd o ddod allan o’r cyfnod tywyll hwn yw gyda’n gilydd, ac rydym ni wir yn gwerthfawrogi eich cymorth.
Hoffem i chi wybod y bydd eich cyfraniad chi, waeth pa mor fach, yn cael ei chwyddo gan gyfraniadau pobl eraill. Gofynnwn i chi fod yn rhan o’n dyfodol ac i’n cefnogi o ran yr hyn y gallwn ei gynnig nawr, yn ogystal â’r hyn a all fod ar y gorwel.