Am Theatr Brycheiniog
Ar hyn o bryd mae’r lleoliad yn darparu rhaglen amrywiol o theatr, dawns, cerddoriaeth ac adloniant yn yr awditoriwm pwrpasol 477-sedd, a’r gofod stiwdio / ymarfer 120-sedd. Mae yma hefyd ystafell gyfarfod, ystafelloedd gwisgo ac oriel, a phob un yn lle hyblyg sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Nid yn unig y mae Theatr Brycheiniog yn gwasanaethu’r gymuned drwy gyfrwng rhaglen ragorol o gynyrchiadau proffesiynol Cymraeg a Saesneg o safon, ond dyma hefyd gartref Gŵyl Faróc Aberhonddu, sy’n denu cynulleidfaoedd ac ymwelwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r theatr ar agor drwy’r flwyddyn, ac mae’n ymfalchïo yn ei gallu i ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad a’r byd.
Mae Oriel Andrew Lamont yn arddangos gwaith artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a ddetholwyd yn arbennig gan banel celf weledol. Fyddwch chi byth yn gweld dwy arddangosfa debyg i’w gilydd, a bydd ffiniau celfyddydol yn cael eu gwthio’n aml!
Mae gan y theatr fwyty a bar, sef The Waterfront a Bar Glandŵr, y ddau’n gweini bwyd a diod o’r safon uchaf gan ddetholiad o gyflenwyr lleol.
Ariennir Theatr Brycheiniog gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Aberhonddu.