#KeepYourSeatWarm
Rydyn ni’n gwahodd cwsmeriaid ddoe a heddiw i ‘ymrwymo’ i’n cefnogi drwy eich gwahodd i ‘gadw eich sedd yn dwym’.
Er nad ydym ni’n gallu llenwi’r awditoriwm ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ymlaen at y dydd (neu’r nos!) pan fyddwn ni’n gallu gwahodd ein cynulleidfaoedd yn ôl i brofi rhaglen eang ac amrywiol o gomedi, cerddoriaeth, dawns a drama rhagorol.
Os ydych chi’n aelod rheolaidd o gynulleidfa Theatr Brycheiniog, mae’n debygol y byddwch chi’n gweld ein heisiau ni gymaint ag yr ydyn ni’n gweld eich eisiau chi!
Rydyn ni’n ymwybodol nad oes modd i chi bori drwy ein llawlyfr hyfryd ar hyn o bryd er mwyn dewis eich hoff noson mas, ond hoffem roi cyfle i chi ‘Gadw’r Sedd yn Dwym’ yn barod ar gyfer yr adeg y gallwch ddychwelyd yn ddiogel.
Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau i roi credyd o £10, £20 a £50 ar eich cyfrif i chi, neu fel rhodd i rywun arall allu mwynhau ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau pan fydd yn ailddechrau. Byddai hynny’n syrpreis hyfryd i weithiwr allweddol, neu rywun o’ch cydnabod sydd wedi mynd yr ail filltir yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gallai fod yn syrpreis hyfryd i chi yn y dyfodol hefyd, pe baech chi’n anghofio am y credyd ar eich cyfrif pan fyddwch chi’n dod atom i archebu tocynnau nesaf! Ni fydd cyfyngiad amser ar y credyd hwn.