pam DOD YN NODDWR?
£100 Y FLWYDDYN
Drwy ymuno fel Noddwr Theatr Brycheinioggallwch gael mynediad i sawl mantais ardderchog, a’n helpu ni i:
- gyflwyno rhaglen gelfyddydol gynyddol gyffrous
- ymgysylltu â rhagor o’r gymuned
- gwella profiad ymwelwyr â’n lleoliad
Os hoffech gyfrannu mwy na’r hyn a amlinellir yn y pecynnau buddion a amlinellir isod, gallwch hefyd ystyried gwneud rhodd y gellir gosod amodau Cymorth Rhodd arno. Bydd pob cyfraniad ychwanegol o £10 gan drethdalwr yn y DU yn ein galluogi i hawlio £2.50 mewn Cymorth Rhodd, ac mae pob ceiniog yn cyfri. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw ein pecyn manteision craidd yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.
Gellir mwynhau’r manteision isod gyda’ch cerdyn aelodaeth personol, a bydd yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth elusennol:
- 10% i ffwrdd yn y Caffi a Bar
- Cerdyn aelodaeth wedi’i bersonoli
- Casglwch bwyntiau teyrngarwch, i’w cyfnewid yn erbyn pryniant tocynnau yn y dyfodol
- Derbyn Cylchlythyr Noddwyr arbennig yn llawn o wybodaeth newydd sbon
- Derbyn rhybuddion e-bost am sioeau sydd ar y gweill a’r cyfle i archebu fel blaenoriaeth
Fel Noddwr byddwch chi’n derbyn pob un o’r manteision uchod y mae Cyfeillion yn eu cael, yn ogystal â derbyn y buddion unigryw hyn:
- Parcio am ddim o 10am ym maes parcio’r theatr
- Derbyniadau ecsgliwsif i Noddwyr cyn neu ar ôl ambell sioe, gyda chyfle i gwrdd â’r cast
- Digwyddiadau tu ôl i’r llenni, fel teithiau cefn llwyfan
- Boreau coffi rheolaidd
- Derbyn cylchlythyr Noddwr arbennig gyda rhagor o gynnwys unigryw
- Cyfnewid hyd at 7 tocyn am ddim mewn blwyddyn
- Cydnabyddiaeth ddewisol ar ein gwefan
Gallwch brynu Nawdd ar y Cyd ar eich cyfer chi a’ch partner erbyn hyn am £180 y flwyddyn.
Buy your Patron or joint Patron Membership and make a donation online here.
NODDWR OES THEATR BRYCHEINIOG
Fel arfer mae bod yn Noddwr Oes yn anrhydedd a roddwn am gyfnod o 10 mlynedd i bobl sydd wedi rhoi dros £1,000 i’r theatr fel rhodd ddyngarol – rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’r gwaith a wnawn nawr. Os hoffech chi a’ch partner gyfrannu £1,800 neu ragor i’r theatr, byddem wrth ein bodd i’ch croesawu fel Noddwyr Oes ar y Cyd.
Cydnabyddir Noddwyr Oes ar ein gwefan os ydych chi’n dymuno hynny.
Os hoffech drafod bod yn Noddwr Oes, neu ddysgu suty gallwch gyfrannu rhoddion dyngarol eraill i ni, cysylltwch os gwelwch yn dda â ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cyfeillion a Noddwyr: friends@brycheiniog.co.uk / 01874 611622
Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer ein cynllun Cyfeillion a Noddwyr o’r swyddfa docynnau neu gellir eu lawrlwytho yma.