Eich ymweliad
AMSEROEDD AGOR
Mae Theatr Brycheiniog ar agor saith niwrnod yr wythnos; o 10am tan 6pm ddydd Llun – Sadwrn, ac o 10am tan 5pm ddydd Sul yn ystod misoedd y gaeaf. Ar nosweithiau perfformiad bydd yr adeilad ar agor yn hwyrach.
Mae oriau’r swyddfa docynnau’n adlewyrchu oriau agor yr adeilad, heblaw ar nosweithiau perfformiad pan fydd yn cau 30 munud wedi’r amser dechrau a hysbysebir.
CYFARWYDDIADAU
Lleolir Theatr Brycheiniog yn nhref Aberhonddu yn Ne Powys, ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Nid yw ond ychydig gamau i ffwrdd o ganol tref Aberhonddu.
PARCIO CEIR PENODEDIG
Hyd at 10 munud – Am ddim
Hyd at 1 awr – 50c
1-2 awr – £1.20
2-4 awr – £2.60
Dros 4 awr – £3.00
5.30pm tan 8am – £1.00
Parcio ar gyfer campyfans a charafanau – £10 y noson
Noder os gwelwch yn dda: Mae’r parcio y tu ôl i’r adeilad ar gyfer staff a chwmnïau sy’n ymweld yn unig. Rhoddir tocyn a dirwy i bawb nad ydynt yn arddangos cerdyn hawl dilys.