Cefnogi Theatr Brycheiniog
Fel elusen gofrestredig (rhif 1005327) sy’n gweithio i wasanaethu’r gymuned, mae angen cefnogaeth ychwanegol ar y theatr bob amser, boed ar gyfer gwneud gwelliannau i’r adeilad neu i gefnogi prosiectau cymunedol. Dyma sut y gallwch chi helpu:
CYFRANNU AR LEIN
Gallwch wneud cyfraniad ar lein yma.
CYFRANNU WRTH BRYNU TOCYNNAU
Gallwch gyfrannu swm o’ch dewis chi wrth brynu tocynnau ar lein, dros y ffôn neu’n bersonol yn y Swyddfa Docynnau.
CYMORTH RHODD
Peidiwch ag anghofio ticio blwch Cymorth Rhodd ar eich cyfraniad, er mwyn i’r theatr allu hawlio’r dreth yn ôl, gan ychwanegu 25c ymhob £1 i’ch rhodd.
RHOI WRTH FYW
Mae Rhoi wrth Fyw yn ffordd hawdd a rhad o godi arian i Theatr Brycheiniog, wrth siopa ar lein. Dysgwch ragor isod.
DRWY YMUNO Â CHYNLLUN CYFEILLION A NODDWYR
Dysgwch ragor am ddau lefel yr aelodaeth hon isod...