Caffi Theatr B!
Mae ein caffi ar lan y gamlas yn lle gwych i ymlacio a threulio amser ynddo, boed hynny cyn sioe, i gael brecwast, cinio neu goffi a theisen – mae gennym fwydlen ar gyfer pob achlysur.
Bwydlen Brecwast
Gwasanaeth o 9am tan 11.30am. Dydd Llun i ddydd Sul.
Bwydlen Cinio
Gwasanaeth o 12pm tan 2.30pm. Dydd Llun i ddydd Sul. (Haf 12pm-3pm)
Bwydlen Hwyrol
Yn cael ei gweini ar nosweithiau sioeau a digwyddiadau arbennig
Bwydlen Antipasti
Mae ein Platiau Antipasti ar gael cyn sioeau, gan gynnig detholiad rhagorol o gig, caws, a byrddau figan, a’r cynnwys wedi dod o’r ardal leol ble bo’n bosib; maen nhw ar gael i’w rhag-archebu’n unig. Ffoniwch ein Tîm Profiad Ymwelwyr ar 01874 611 622 i archebu.
Bar Theatr B!
Bydd bar Theatr B! yn agor awr cyn i sioe ddechrau, gan gynnig dewis o ddiodydd alcoholig a di-alcohol, beth am alw draw i ymgolli yn y naws?
Gallwch rag-archebu eich diodydd yn barod ar gyfer egwyl sioe, holwch aelod o dîm y bar am sut i rag-archebu cyn sioe, neu defnyddiwch ein gwasanaeth neges destun i weld ein ap rhag-archebu.


