Band Cyngerdd Tref Aberhonddu
Mae’r band, sy’n cymysgu pob oedran a gallu, yn ymarfer ar nos Lun yn y stiwdio rhwng 7-9pm. Ymarferir ystod eang o gerddoriaeth, o’r hawdd iawn i gerddoriaeth fwy heriol a berfformir yn ein cyngerdd “Last Night of the Proms” blynyddol.
Drwy gydol yr haf, bydd y band yn perfformio mewn sioeau a digwyddiadau, ac yn yr wythnosau cyn y Nadolig, byddwn ni’n perfformio yn Sgwâr Bethel. Os ydych chi’n chwarae, neu os hoffech ddysgu chwarae offeryn pres, chwythbrennau neu daro, yna y band yw’r lle delfrydol i chi.
Dim ond £35 yw’r tâl aelodaeth blynyddol, ac mae hyn yn cynnwys offeryn (os oes angen, a bod un ar gael), crys polo, bag cerddoriaeth a’r holl gerddoriaeth.
Ymarferion wythnosol nos Lun |Cysylltwch â Dave Jones 01874 623650 neu 07779 390954