SWYDDI GWAG
Swyddi Gwag Presennol: Technegydd . Cogydd Y Caffi
Technician
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Llawn amser
37.5 AWR / WYTHNOS
CARU’R THEATR?
SGILIAU GOLEUO, SAIN A PHOPETH TECHNEGOL?
YMUNWCH Â’N CRIW…
Rydyn ni’n chwilio am Dechnegydd dawnus a brwdfrydig i ymuno â’r tîm yn Theatr Brycheiniog, lleoliad prysur a bywiog a leolir ynghanol harddwch eithriadol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gyda rhaglen lawn dop o theatr, cerddoriaeth, dawns a gweithgareddau cymunedol, prin fod dau ddiwrnod yr un peth!
Byddwch chi’n meddu ar sgiliau peirianneg sain cryf, ynghyd â phrofiad o oleuo a gwaith llwyfan, er mwyn helpu i ddarparu cynyrchiadau a digwyddiadau o’r safon uchaf. Gan weithio fel rhan o dîm bach, sgilgar, byddwch chi’n cefnogi popeth o gigs byw a dramâu i gynadleddau a dangosiadau ar sgrin – gan weithredu sain, goleuo a rheoli ‘get-ins/outs’ ar draws ein gwagleoedd perfformio hyblyg.
Dewch i ddatblygu eich sgiliau mewn lleoliad a adnewyddwyd yn ddiweddar, gydag offer tech a ddiweddarwyd, artistiaid cefnogol, cwmnïau a’r gymuned greadigol yn lleol, yn un o’r rhannau harddaf o Gymru.
Eisiau gwybod mwy?
Disgrifiad Swydd - Techegydd
Anfonwch e-bost jobs@brycheiniog.co.uk
COGYDD Y CAFFI
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Ydych chi'n?
Mwynhau bwyd gwych?
Hoffi arbrofi tipyn?
Cofleidio amrywiaeth?
Then join this enterprising and talented kitchen team!
Pwy ydyn ni?
Lleolir Caffi Theatr Brycheiniog ar lan Basn Camlas Mynwy a Brycheiniog, ac mae'n swatio yn harddwch Bannau Brycheiniog. Rydyn ni ar agor bob dydd ac yn prysur ddod yn lleoliad y bydd pobl leol a phobl ar eu gwyliau o bob ewr or byd yn teithion benodol iddo, er mwyn mwynhau ein cynnyrch lleol.
Mae gan ein tim cegin enw da dros ben am eu detholiad o deisennau a bwydydd sawrus cartret, au gallu i addasu i anghenion eu cwsmeriaid a galwadau marchnad sy'n newid yn barhaus. Rydyn nin eithaf da ar wneud bffe hefyd (fe fwydon nir Brenin a'r Frenhines).
Pwy ydych chi?
Cymwysterau Arlwyo? Grêt, ond nid dyna'r peth mwyaf pwysig!
Gallwn ni ddysgu sgiliau i chi
-ydych chin hapus i ddysgu?
Gallwn ni rannu ein syniadau
-oes gennych chi eich syniadau eich hunan?
Gallwn ni ddarparu lle gwych i wethio ynddo
-wnewch chi ddod yn rhan oir tim?
Rydyn nin dathlu ein Ilwyddiannau
- hoffech chi gyfrannu atynt?
Eisiau gwybod mwy? anfonwch e-bost jobs@brycheiniog.co.uk
Ffurflen Fonitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
THEATR B! VOLUNTEERS
We are currently recruiting for new board members - more info can be found here.
We are keen to recruit volunteers of all ages to come and join our friendly and enthusiastic team - more info can be found here.
I gael pecyn ymgeisio a mwy o wybodaeth, gan gynnwys rhestr gyflawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, anfonwch e-bost at jobs@brycheiniog.co.uk