ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG
Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eich ymweliad mor rhwydd â phosib. Mae gennym nifer o sioeau sydd hefyd yn cael eu perfformio ar ffurf ‘Perfformiadau Ymlaciedig’. Yn ystod perfformiad ymlaciedig, mae’r Goleuadau Tŷ yn cael eu gadael yn isel a byddai goleuadau strôb o bosib yn cael eu tynnu allan yn llwyr. Mae synau uchel unai yn cael eu tynnu allan yn llwyr neu eu tawelu i lefel isel. Mae’r gynulleidfa yn rhydd i fynd â dod fel sydd angen ac mae rheolau dyfodiadau hwyr yn cael eu llacio. Does dim angen teimlo o gwbl y dylid peidio gwneud sŵn yn ystod y perfformiad. Mae aelodau o staff ychwanegol wrth law i fod o gymorth fel sydd angen ac mae’r cast a’r criw yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth cyn y perfformiad.
Ein braint yw gallu dod â’r gorau o theatr, bale ac opera i chi, ein cynulleidfaoedd bendigedig. Mae ein dangosiadau byw ar y sgrin fawr wastad yn hardd o syfrdanol ac yn aml yn peri i rywun feddwl hefyd. Cawsom ein bendithio ag enwau mawr am bris fforddiadwy, ac fe welwch y cewch ymgolli yn hud yr eiliad, nes peri i chi anghofio mai perfformiad ar sgrin ydyw… peidiwch â derbyn ein gair ni, dewch draw i fwynhau’r gorau o fyd y ddrama gyda’r National Theatre o Lundain yn cael ei ddangos yma yng nghlydwch Theatr B!
“Daw National Theatre Live â’r gorau o fyd drama Prydeinig i sgrin sinema sy’n lleol i chi. Rydyn ni’n ffilmio ein dramâu yn fyw o flaen cynulleidfa theatr fyw, ond yn gosod popeth ar gyfer ei weld orau ar y sgrin fawr, felly dyma’r peth nesaf at fod yno.
“Bydd yr actorion ar lwyfan yn rhoi’u perfformiad arferol, fel unrhyw noson arall. Ond er mwyn sicrhau fod ein cynulleidfaoedd sy’n gwylio mewn sinema’n cael sedd orau’r tŷ, rydyn ni’n teilwra lleoliad ein camerâu i ddal pob cynhyrchiad a gweithio’n agos gyda thimau technegol i sicrhau fod pob elfen ar y llwyfan, fel goleuo, gwallt a cholur, yn edrych yn wych ar y sgrin fawr.” – National Theatre Live
ARCHEBWCH
Mae mynd â’ch teulu neu’ch dosbarth i weld sioe fyw yn bendant yn brofiad cyffrous, ac yn brofiad i’w gofio, ac mae hefyd yn cyfrannu at brofiad dysgu positif mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Os hoffech drefnu ymweliad ar gyfer dosbarth neu grŵp, cysylltwch â’n swyddfa docynnau ar os gwelwch yn dda, i drafod beth y gallech fod ei angen a sut y gallwn helpu.
Mae gwneud ymweliadau theatr yn ‘norm’ yn helpu i ddymchwel y rhwystrau sydd yn aml yn cyfyngu ar y mynychu, rhwystrau fel diffyg diddordeb, diffyg ymwybyddiaeth neu ryw deimlad mai peth elitaidd yw’r celfyddydau – rydym eisiau pwysleisio fod y celfyddydau i bawb. Wrth ddod â’ch plant i’n theatr mae gennych y cyfle i danio gwreichionen o ddiddordeb, agor drws i fydoedd newydd ac efallai dod o hyd i’r cyfarwyddwr llwyfan, technegydd, dylunydd gwisg, actor neu ddramodydd nesaf.
Athrawon yn Ymweld am Ddim!
Gall hyd at 90% o’ch costau gael eu talu gan y Gronfa Ewch i Weld gan CCC, a gallwn eich helpu i geisio am nawdd o’r gronfa. Nodwch os gwelwch yn dda bod y gronfa ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig.
Mae Gennym:
- Lecyn gollwng i lawr rhwydd yn ogystal â pharcio rhwydd ar gyfer bysiau
- Gall athrawon ymweld am ddim (gweler isod am fwy o wybodaeth)
- Hufen ia Llanfaes Dairy y gellir ei archebu o flaen llaw, ac mae opsiynau heb gynnyrch llaeth ar gael hefyd.
Peidiwch ag anghofio ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol gydag unrhyw luniau o’ch ymweliad â ni.
PERFFAITH AR GYFER YSGOLION
Daeth tymor newydd, ac yn ei sgil, ddechrau newydd a chyfleoedd newydd. Yn Theatr Brycheiniog, rydyn ni wrth ein bodd o gyflwyno ein rhaglen newydd sbon, yn llawn dop o ddigwyddiadau a sioeau cyffrous a fydd yn eich ysbrydoli a’ch diddanu.
Efallai eich bod wedi clywed eisoes am rai o’r newidiadau sy’n digwydd yn Theatr Brycheiniog – logo cyffrous newydd ac ailfrandio, ac mae ein hardaloedd blaen y tŷ a’r rhannau o’n hadeilad sy’n croesawu’r cyhoedd wedi cael adnewyddiad hirddisgwyliedig. Bu’n wych gallu ailagor ein drysau i’r cyhoedd, dangos ein llecynnau ar eu newydd wedd a bod yn ganolbwynt i’r gymuned leol unwaith eto.
Yn Theatr B! rydyn ni’n llawn creadigrwydd a gobeithio fod ein hangerdd yn hyn o beth yn pefrio. Ysgrifennwn atoch â newyddion cyffrous am y tymor i ddod yn Theatr Brycheiniog, ac edrychwn ymlaen at groesawu’r genhedlaeth iau o fynychwyr y theatr drwy ein drysau.
Rydyn ni eisiau bod mor gynhwysol â phosib felly gadewch i ni siarad cyn i chi ymweld!