Adnoddau addysgol
Mae’r theatr yn rhoi’r cyfle i gynulleidfaoedd ymgolli mewn straeon am gymeriadau o bob cefndir posib, gan ddangos i blant sut i werthfawrogi’r gwahaniaethu rhwng pobl a chydnabod safbwynt pobl eraill. Gall hyn ein harfogi i ddod i ddeall safbwynt pobl o amseroedd, gwledydd a diwylliannau gwahanol, ac mae hyn oll yn ennyn ein hempathi personol a’n cyd-ddeallt wriaeth diwylliannol.
O oedran ifanc iawn, mae plant yn defnyddio eu dychymyg i greu bydoedd dychmygol, gan actio straeon allan. Mae’r theatr yn barhad o’r angen hwn i fynegi ein hunain a thrwy ymwneud â pherfformio byw rydym yn rhoi’r cyfle i ni’n hunain i barhau i ddatblygu ein hunanfynegiant a’n creadigrwydd. Ewch i'n tudalen Beth Sydd Ymlaen i gael rhestr gyfoes o'n sioeau sydd ar ddod.
Mae’r celfyddydau perfformio yn dysgu plant sut i feddwl yn greadigol drwy ddefnyddio’r dychymyg. Mae meddwl creadigol yn hanfodol ar gyfer gallu dadansoddol i greu datrysiadau ar gyfer problemau. Drwy ddatblygu sgiliau dawns, actio a cherddoriaeth, mae plant hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu mewn ystod o wahanol ffyrdd, ac mae rhai o’r rhain yn cynnig lle i blant fynegi eu hunain, na fuasent o bosib, yn ei gael yn unrhywle arall. Mae gennym nifer o grwpiau cymunedol arbennig a fyddai wrth eu bodd petaech yn cymryd rhan gan roi’r cyfle i’ch plentyn ddysgu sgil newydd.