Our Friends & Patron Scheme: Cribyn|Pen y Fan|Corn Du| Seren

Mae lleoliad Theatr Brycheiniog yn unigryw – wedi’i amgylchynu gan dirweddau godidog Bannau Brycheiniog ac ynghanol un o’r Gwarchodfeydd Awyr Dywyll gorau ym Mhrydain.
Rydyn ni wedi gwrando ar adborth ein Cyfeillion, Noddwyr a chynulleidfaoedd gwerthfawr, ac rydyn ni bellach yn falch o allu cyhoeddi ail-lansiad ein cynllun Cyfeillion a Noddwyr.
Rydyn ni eisiau dathlu ein cyswllt â’r amgylchedd, felly rydyn ni wedi enwi tair lefel ein cynllun Cyfeillion ar ôl tri chopa uchaf mynyddoedd Bannau Brycheiniog – Pen y Fan, Corn Du a’r Cribyn. Enw ein cynllun Noddwyr yw ‘Seren’ i gydnabod y Warchodfa Awyr Dywyll a’r cytserau hudolus sy’n pefrio dros ein theatr anhygoel.
Bydd y strwythur newydd yn eich galluogi i barhau i gefnogi’r theatr, ac yn helpu peri i’ch arian fynd ymhellach, am y bydd yn ein galluogi ni i hawlio cymorth rhodd ar eich cyfraniad, gan godi 20% yn ychwanegol i’r elusen dros ben eich cyfraniad chi.

CWRDD Â’N NODDWYR
Mae Theatr Brycheiniog yn ddiolchgar iawn i’n Noddwyr Oes a’n Noddwyr, ddoe a heddiw, sy’n ein helpu yn ein gwaith o ddarparu’r cyfleoedd celfyddydol gorau ar gyfer y rhanbarth.
NODDWYR OES
Andy Collinson, Carla Rapoport, Catherine Turner, David Wilson, Elizabeth Gibbs, Elizabeth Jeffereys, Gary Blackledge, Helen Tinniswood, Jenny Thomas, John Gibbs, Jonathan Morgan, Michael Murphy, Punch Maughan and Rita Hughes.
NODDWYR OES AR Y CYD
John & Patricia Richardson and Nick & Sally Jones.
Rhennir eich cyfraniad i’n cynllun Cyfeillion a Noddwyr fel a ganlyn ar gyfer pwrpasau TAW a Chymorth Rhodd:
Cribyn (£30 y flwyddyn): Tâl Aelodaeth £15 (yn cynnwys TAW). Cyfraniad gwirfoddol sy’n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd £15.
Corn Du (£60 y flwyddyn): Tâl Aelodaeth £20 (yn cynnwys TAW). Cyfraniad gwirfoddol sy’n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd £40.
Pen y Fan (£120 y flwyddyn): Tâl Aelodaeth £25 (yn cynnwys TAW). Cyfraniad gwirfoddol sy’n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd £95.
Seren (£1000+/10 mlynedd): Cyfraniad gwirfoddol sy’n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd £1000+.
Mae’r tâl aelodaeth ar gyfer pob lefel o Gyfeillion a Noddwyr yn cynnwys gwerth y buddion a chost aelodaeth Theatr Brycheiniog. Gellir prynu’r buddion hyn ar wahân ar sail y gost waelodol, ac mae unrhyw swm a delir uwchlaw hyn yn gymwys i’w ystyried ar gyfer Cymorth Rhodd.
I drafod prynu manteision ar wahân, cysylltwch ag un o’n tîm Profiad Ymwelwyr ar 01874 611 622 neu e-bostiwch friends@brycheiniog.co.uk



