Yoga gyda Johanna Paxton
Yoga i bob oedran a gallu. Ffordd o ryddhau straen a thyndra diangen. Gwella cryfder, cydbwysedd, hyblygrwydd a chydsymud.
Mae gwersi yoga Johanna’n adlewyrchu’i diddordeb mewn anatomeg, biofecaneg ac athrawiaeth Vanda Scaravelli. Mae dosbarthiadau’n gyfeillgar, yn hamddenol ac yn cael eu dysgu â chryn ddogn o hiwmor. Mae gan Johanna lai o ofid am estheteg gosodiadau yoga, nac am ymgyrraedd at fwy o hyblygrwydd. Yn hytrach rhoddir y pwyslais ar ryddhau tyndra yn y corff, wrth weithio’n raddol tuag at ystwythder a symud dirwystr.
Mae Johanna’n athrawes yoga sy’n gweithio yn Ne Cymru. Dechreuodd ymarfer yoga yn 1998. Oherwydd ei diddordeb mawr mewn symud a dawns, cafodd ei denu’n wreiddiol at agweddau cryf a deinamig arddull yoga Ashtanga Vinyasa. Yn fwy diweddar, symudodd ymarfer personol Johanna i gyfeiriad cysyniadau a syniadau a ysbrydolwyd gan y diweddar Vanda Scaravelli. Enillodd Johanna ei diploma addysgu yoga yn 2008 gyda’r athrawon o Brighton, Allie Hill, Chris Swain a Kathryn Varley. Astudiodd Johanna gyda’r athrawon Prydeinig Bridget Whitehead, Caroline Reid, Bill Wood, Catherine Annis a Peter Blackaby.
Wythnosol Dydd Mercher, 10am. Yn dechrau 6 Mawrth.
Am manylion: www.johannapaxton.com | Cysylltu: jo@johannapaxton.com