Croeso
Ysbrydolwyd y gwaith creadigol hwn gan archwiliad o ystyr croesawu pobl sydd mewn angen ac sy’n ceisio lloches. Gwnaed y gwaeth gan ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangors, Ysgol Cradoc, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Clyro, Ysgol y Mynydd Du, Ysgol Archddiacon Griffiths, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy ac ysgol Fabanod Mount Street.
Mae’r arddangosfa’n cyflwyno gwaith celf a ddaeth i restr fer cystadleuaeth a drefnwyd gan Lloches i Ffoaduriaid y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth, Mae nifer o’r ysgolion sy’n cymryd rhan wedi’u dynodi’n Ysgolion Lloches neu’n gweithio tuag at y dynodiad hwnnw. Nod Ysgol Lloches yw bod yn lle sy’n croesawu pawb, sy’n addysgu pobl ifanc ynghylch pam y gorfodir pobl i symud drwy rym, sy’n cydnabod fod y Deyrnas Unedig yn cael ei chyfoethogi gan bobl newydd sy’n cyrraedd; ac sy’n cefnogi disgyblion o bob cefndir i gael eu gweld a’u cynnwys.
Mae Wythnos Ffoaduriaid (16-23 Mehefin 2024) yn ŵyl ryngwladol sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches
Cefnogir y prosiect hwn gan PAVO a Chyngor Sir Powys..
Oriel / Arddangosfeydd / 10 Mehefin – 5 Gorffennaf
Jess Hinsley
Mae’r artist Jess Hinsley’n byw ac yn gweithio ym Mannau Brycheiniog, Cymru. Mae’i gwaith yn archwilio’i chariad at natur a mannau gwyllt. Yr angerdd hwn sy’n ei harwain i’r mynyddoedd, ac mae’n llifo ohoni drwy gyfrwng marciau sgriblog, llawn mynegiant. Weithiau, bydd Jess yn peintio yn yr awyr agored gyda phaent acrylig, weithiau bydd yn gwneud darluniau mewn llyfr sgetsys a fydd wedyn yn cael haenau o baent acrylig drostynt, a’u harchwilio fel cyfrwng yn ei stiwdio. Mae’i defnydd o liw’n adlewyrchu’r cyfoeth a’r emosiwn a welir ganddi yn y dirwedd. I Jess, y mynyddoedd yw ei chartref, lle sy’n gwella clwyfau, lle sy’n fyw dan ei thraed.