Choose language | Dewis iaith
gb cy
Theatr Brycheiniog, Brecon

BOX OFFICE | SWYDDFA DOCYNNAU  01874 611622

DROP US A LINE | ANFONWCH AIR ATOM
  • Menu
  • Hafan
  • Beth sy’n digwydd
  • Eich ymweliad
    • Diweddariad Am Yr Adeilad
    • Hygyrchedd
    • e-docynnau
    • Taith rithwir
  • Yr oriel
    • CELF YN Y BAR
    • Arddangosfa Bresennol
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
    • Arddangosfeydd y Dyfodol
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Staff
    • Cwrdd ag Aelodau’r Bwrdd
      • Penodi Aelodau Newydd o’r Bwrdd
    • Swyddi Gwag
    • Llogi’r Lle
    • Datganiad i'r wasg
  • Bwyd a Diod
  • Cefnogi ni
    • Pam dod yn Ffrind
    • PAM DOD YN NODDWR
    • Rhoi wrth Fyw
    • Cyfrannu
    • Keep Your Seat Warm
  • Cymryd Rhan
    • Cymryd Rhan
      • Sesiynau Canu Uplift
      • Gofal Cefn Arddull Pilates
      • Ymdrwytho’r Corff Arddull Pilates
      • Academi Ddawns Canolbarth Cymru
      • Band Cyngerdd Tref Aberhonddu
      • Y Gymdeithas Gelfyddydol: Brycheiniog
      • University of the 3rd Age
      • Yoga
    • Gwirfoddoli
  • Addysg
    • Adnoddau sydd ar gael
    • Archebwch
    • Anghenion addysgol arbennig

Mae Theatr Brycheiniog bellach yn cyhoeddi tocynnau digidol!

Dyma newyddion rhagorol mewn sawl ffordd! Mae e-docynnau’n ddigyffwrdd, yn hawdd eu defnyddio, ac yn golygu y gallwn ni eich helpu i osgoi ciwio yn y Swyddfa Docynnau, wrth i chi ein helpu i wella ein mesurau diogelwch Covid.

Ar ôl archebu eich ymweliad â’r theatr, byddwch chi’n derbyn e- bost gennym a fydd yn cynnwys eich e-docynnau. Gallwch naill ai sganio’r rhain yn uniongyrchol o’ch ffôn pan gyrhaeddwch y theatr, neu’u hargraffu gartref a dod â chopi papur gyda chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i ddefnyddio e-docyn, cysylltwch os gwelwch yn dda â thîm y Swyddfa Docynnau sy’n fwy na hapus i’ch helpu gydag unrhyw ofidiau. I helpu mwy, rydyn ni wedi casglu rhai o’r Cwestiynau Cyson sy’n cael eu gofyn isod:

Beth yw e-docyn?

Codau QR digidol yw e-docynnau sy’n cynnwys yr un wybodaeth â thocyn y byddech fel arfer yn ei gasglu o’n Swyddfa Docynnau. Mae codau QR yn fath o god bar sgwâr sy’n storio gwybodaeth gan ddefnyddio sgwariau bach du a gwyn, a gall ffonau clyfar eu ‘darllen’.

Sut fydda i’n derbyn fy e-docynnau?

Byddwn ni’n anfon neges gadarnhau dros e-bost, a bydd eich e-docynnau wedi’u hatodi fel PDF.

Sut ydw i’n defnyddio fy e-docynnau?

Pan fyddwch chi’n cyrraedd y theatr, y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd agor eich negeseuon e-bost, a dangos yr e-docynnau ar eich ffôn clyfar. os gallwch sicrhau fod gosodiadau llachar y ffôn wedi’u gosod i’r lefel uchaf, mae hyn yn helpu’r sganwyr i ddarllen y cod QR.

Beth os nad oes gen i ffôn clyfar?

Os nad oes modd i chi ddefnyddio ffôn clyfar ar gyfer eich e-docynnau, bydd angen i chi argraffu eich tocyn gartref a bydd un o’r tîm yn y Swyddfa Docynnau’n sganio’r cod QR i chi pan gyrhaeddwch y theatr.

Beth os nad ydw i’n gallu dod o hyd i’r e-bost gyda’r e-docynnau’n atodedig?

Gwiriwch eich ffolderi sgrwtsh ac unrhyw gyfeiriad e-bost arall y gallech fod wedi’i ddefnyddio. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r e-bost wedyn, cysylltwch â’r tîm yn y Swyddfa Docynnau, a bydd modd iddyn nhw wirio’r manylion ac ailanfon y tocynnau os oes angen.

Dwi wedi colli fy e-docynnau a / neu’r fersiwn wnes i argraffu. Beth ydw i’n ei wneud?

Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar unwaith os gwelwch yn dda er mwyn iddyn nhw allu ailgyhoeddi e-docyn newydd ar y cyfle cyntaf.

Dydy fy e-docynnau ddim yn dweud digon wrthyf am fy ymweliad; sut ydw i’n dod o hyd i wybodaeth sydd ei angen arnaf?

Gall pob un o’n e-docynnau fynd â chi’n syth at ein gwefan, ble rydyn ni’n dangos yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth fydd angen i chi ei wybod er mwyn mwynhau eich ymweliad â ni.

 

Our address | Ein cyfeiriad

Theatr Brycheiniog
Canal Wharf
Brecon
Powys
LD3 7EW

Charity number | Rhif elusen 1005327

Telephone us | Ffonio ni

Box Office | Swyddfa docynnau
01874 611622

Administration | Gweinyddiaeth
01874 622838

Privacy policy and GDPR compliance

Supported by | Cefnogir gan...


© 2025 Theatr Brycheiniog
Sign In to Edit this Site
purpleandgreen