ARDDANGOSFEYDD Y GORFFENNOL
Jess Hinsley
Mae’r artist Jess Hinsley’n byw ac yn gweithio ym Mannau Brycheiniog, Cymru. Mae’i gwaith yn archwilio’i chariad at natur a mannau gwyllt. Yr angerdd hwn sy’n ei harwain i’r mynyddoedd, ac mae’n llifo ohoni drwy gyfrwng marciau sgriblog, llawn mynegiant. Weithiau, bydd Jess yn peintio yn yr awyr agored gyda phaent acrylig, weithiau bydd yn gwneud darluniau mewn llyfr sgetsys a fydd wedyn yn cael haenau o baent acrylig drostynt, a’u harchwilio fel cyfrwng yn ei stiwdio. Mae’i defnydd o liw’n adlewyrchu’r cyfoeth a’r emosiwn a welir ganddi yn y dirwedd. I Jess, y mynyddoedd yw ei chartref, lle sy’n gwella clwyfau, lle sy’n fyw dan ei thraed.
Ysbrydolwyd y gwaith creadigol hwn gan archwiliad o ystyr croesawu pobl sydd mewn angen ac sy’n ceisio lloches. Gwnaed y gwaeth gan ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangors, Ysgol Cradoc, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Clyro, Ysgol y Mynydd Du, Ysgol Archddiacon Griffiths, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy ac ysgol Fabanod Mount Street.
Mae’r arddangosfa’n cyflwyno gwaith celf a ddaeth i restr fer cystadleuaeth a drefnwyd gan Lloches i Ffoaduriaid y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth, Mae nifer o’r ysgolion sy’n cymryd rhan wedi’u dynodi’n Ysgolion Lloches neu’n gweithio tuag at y dynodiad hwnnw. Nod Ysgol Lloches yw bod yn lle sy’n croesawu pawb, sy’n addysgu pobl ifanc ynghylch pam y gorfodir pobl i symud drwy rym, sy’n cydnabod fod y Deyrnas Unedig yn cael ei chyfoethogi gan bobl newydd sy’n cyrraedd; ac sy’n cefnogi disgyblion o bob cefndir i gael eu gweld a’u cynnwys.
Mae Wythnos Ffoaduriaid (16-23 Mehefin 2024) yn ŵyl ryngwladol sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches
Cefnogir y prosiect hwn gan PAVO a Chyngor Sir Powys..
Oriel / Arddangosfeydd / 10 Mehefin – 5 Gorffennaf
Dylunio ac Argraffu: ysbrydolwyd gan Aberhonddu
Treftadaeth Aberhonddu yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith celf yn yr arddangosfa hon. Gan dynnu ar syniadau o adeiladau Aberhonddu a’r casgliadau hanesyddol yn Amgueddfa ac Oriel y Gaer, bu disgyblion Ysgol Uwchradd Aberhonddu’n archwilio prosesau a thechnegau creadigol i greu gwaith newydd.
Gweithiodd myfyrwyr Technoleg Dylunio ym Mlwyddyn 12 gyda’r dylunydd Signe Lydersen i ddatblygu syniadau ar gyfer prototeipiau cynnyrch o wrthrychau yn y Gaer, tra bo myfyrwyr Celf Blwyddyn 10 wedi ymateb amgylchedd adeiledig tref Aberhonddu drwy wneud darluniau a phrosesau argraffu lino gyda’r artist Jamie Tobin.
Mae’r arddangosfa’n nodi taith greadigol y disgyblion yn ystod y prosiect saith wythnos o hyd, gan rannu’r gwaith dylunio, profi ac arbrofi gydag argraffu, a
chreu’r gweithiau celf terfynol.
Nod y prosiect yw datblygu’r gwaith celf yn gyfres o gynhyrchion a werthir yn Theatr Brycheiniog, ac mewn siopau eraill yn Aberhonddu, gan greu elw i gefnogi prosiectau cydweithredol eraill gydag artistiaid lleol ac Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
Artistiaid: disgyblion Technoleg Dylunio Blwyddyn 12 a Chelf Blwyddyn 10, Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Staff Addysgu: Karen Thomas a Divina Gillard, Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Addysgwyr o artistiaid: Signe Lydersen a Jamie Tobin
Curadur, Ruth Lloyd
CELF CYFREITHIOL GWYBODAETH
CYFLWYNIADAU AR Y CYD

HEB WEDI'I DDEFNYDDIO
25 Ebrill - 19 Mai 2019
Roedd difrod heb ei ddinistrio yn arddangosfa amrywiol, yn cynnwys; paentio, celf sain, celf fideo, ffotograffiaeth, dylunio graffig a chelf osod gan artistiaid ledled Cymru ac Ewrop. Archwiliodd yr arddangosfa hon sut y gallem gael trafferth gyda'r profiadau, yr heriau a'r trawma bywyd, ac eto ar yr un pryd a llwyddo trwy adfyd trwy barhau a chydnabod cynhesrwydd a thosturi dynoliaeth, yn ogystal â harddwch y byd o'n cwmpas.
Artistiaid: Rainier Lericolais (Ffrainc), Jules Nerbard (Madeira), Anne Sønsthagen (Norwy), Mark Ingram (Cymru), Susan Matthews (Cymru) a Fi Latus (Cymru)
TESSA WAITE 

PETHAU GWYLLT
21st Mawrth - 23rd Ebrill
Ymholiad i’n perthynas â’r gwyllt, ym myd natur ac ynom ni ein hunain, sydd wrth wraidd y corff newydd hwn o waith. Mae Tessa’n archwilio’r thema gan ddefnyddio deunyddiau syml a gwneud marciau deinamig i greu adeiladweithiau enfawr, llyfrau bach a wnaed â llaw a gosodiadau o wrthrychau a wnaed ac a ganfuwyd.
Dathlu Merched yn yr Awyr Agored
28th Chwefror – 17th Mawrth
Arddangosfa gelf a ffotograffiaeth yn dathlu merched a’r awyr agored, 
wrth iddyn nhw wneud pethau anarferol a chyffredin fel rhan o
Ŵyl Merched Aberhonddu.

PORTREAD O GYMUNED AMAETHYDDOL

17th Ionawr – 24th Chwefror
Ffotograffiaeth gan Rob Baldwin o’i gyfnod yn gweithio fel milfeddyg anifeiliaid mawr yn ardal Aberhonddu o 2004 tan 2010. Cafodd gyfle i dynnu lluniau ffermwyr lleol a’u teuluoedd drwy ymwneud â’r gymuned amaethyddol.
O’R BANNAU I’R MÔR
Dyma arddangosfa werthu o waith serameg gan Grŵp Crochenwyr De Cymru sydd wedi ymateb i’r thema O’r Bannau i’r Môr, a gwaith celf gan Grŵp Cydweithredol Gweithdy Print Abertawe.
Y crochenwyr yw:
Liz Andrews ~ Jane Blair ~ Dan Boyle ~ Jason Braham ~ Kim Colebrook ~ Matt Jones ~ Angela Hathway ~ Chris Heneghan ~ Lindy Martin ~ Rachel Padley ~ Pauline Paterson ~ Jane Rees Parfitt ~ William Rolls ~ Carole Spackman ~ Claire Spencer Jones
Y gwneuthurwyr print yw:
Lynne Bebb ~ Alan Figg ~ Dhyana Fritsche ~ Anne Gullick ~ Yvonne Hills ~ Vicki James ~ Robert MacDonald ~ David LaGrange ~ Carol Lawrence ~ Lesley Lillywhite ~ Pat Lowe ~ Ruth Parmiter ~ Sally Price ~ Kelly Rees ~ Viv Rhule ~ Al Roberts ~ Kara Seaman ~ Judith Stroud
Canalworks by Penny Hallas
5th Hydref – 11th Tachwedd 2018
Wedi’i leoli’n bennaf ar ddarn o gamlas Aberhonddu a Sir Fynwy yn Llangatwg a’r cyffiniau, mae’r arddangosfa hon yn archwilio prosesau naturiol a gweithgaredd dyn fel ei gilydd dros amserdrwy gyfrwng darluniau, paentiadau, fideo ac elfennau cerfluniol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

PromArt 2018
7th – 30th Medi 2018
Arddangosfa o waith celf rhestr fer gan blant lleol a gystadlodd yn PromArt. Mae’u gwaith yn ymateb i Peter a’r Blaidd gan Prokofiev. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys darluniau gan y gwneuthurwr print Victoria Keeble, ar artist cyfryngau cymysg Roger Luxton.

Maurice Selden – FfOTOGRAFFIAETH RALïo 1972-2017
28th Mehefin – 2nd Medi 2018
Gyrfa sy’n dathlu gyrfa ffotograffig y ffotograffydd campau gyrru nodedig hwn – gyrfa sy’n ymestyn dros 45 mlynedd. Canolbwyntiodd Maurice ar Ralïo, gan weithio ledled y byd ar 449 cystadleuaeth ralïo’r byd, record nad yw wedi’i thorri. Bwriad yr arddangosfa yw dal holl gyffro, lliw ac awyrgylch y gamp gyffrous hon.

GWOBR LUMEN YN CYFLWYNO MICROWORLD: ABERHONDDU

28th Mai – 24th Mehefin 2018
Mae Microworld Aberhonddu, a ddatblygwyd gan yr artistiaid digidol Tim Pickup a Nicola Schauerman, a elwir yn Genetic Moo, yn ystafell ymdrochol yn llawn o gelf gynhyrchiol a rhywfaint o gelf ryngweithiol. Ar lun ‘Microworld Aberhonddu’ mae Oriel Andrew Lamont yn lle deinamig sy’n llawn o dafluniadau digidol a raglennwyd gan blant ac oedolion lleol mewn gweithdai gyda’r artistiaid a gynhaliwyd yn ystod wythnos gyntaf yr arddangosfa, ynghyd â’r gwaith cynhyrchiol a rhyngweithiol a gynlluniwyd gan yr artistiaid.
Enillodd Genetic Moo Wobr y Sylfaenydd yng NgwobrCelf Ddigidol Lumen yn 2013, ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Lumen ar sioeau o gwmpas y byd ers hynny. Mae Lumen, a sefydlwyd yn Llangasty, Aberhonddu, wedi helpu i noddi’r sioe hon, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg.
Vulgar Earth
14th Ebrill – 20th Mai 2018
Grŵp cydweithredol o artistiaid sy’n defnyddio paentio, cerflunio a gosodwaith ag angerdd a thanbeidrwydd i atgyfodi ystyriaethau am y cyfeiriad y dewisodd dynoliaeth ei gymryd. Gweler y Daith Rithwir o’r arddangosfa yma:
Abstract Edge
3rd Mawrth – 8th Ebrill 2018
I gyd-fynd â Gŵyl Menywod Aberhonddu 2018, bu i ni groesawu Abstract Edge ym mis Mawrth ac Ebrill ar gyfer arddangosfa o artistiaid benywaidd yn bennaf, gan ddangos cymysgedd o baentiadau lled-haniaethol a llwyr haniaethol; paentiadau ar ymylon haniaeth. Gweler y Daith Rithwir o’r arddangosfa yma:


