Oriel Andrew Lamont
Bale Gŵyl Aberhonddu: Tu ôl i’r llenni gyda The Nutcracker | 20 Tachwedd – 5 Ionawr
Ydych chi erioed wedi ystyried beth sy’n digwydd i greu cynhyrchiad bale proffesiynol? Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cip y tu ôl i’r llenni ar broses greadigol y bale enwog hwn.
Celf yn y Bar | Arddangosfa sy’n newid yn gyson o waith celf gan artistiaid a phobl greadigol o’r ardal leol, ar gael i’w prynu. Ewch i’r wefan i ddysgu sut i arddangos eich gwaith gyda ni.
GALWAD AGORED AM ARTISTIAID A PHOBL GREADIGOL
THEATR BRYCHEINIOG: TREFTADAETH THEATR ABERHONDDU (ARDDANGOSFA BARHAOL)
Mae Theatr Brycheiniog yn dymuno comisiynu hyd at bedwar artist neu weithiwr creadigol i ymgymryd â chomisiynau sy’n dehongli mewn modd artistig elfennau o arddangosfa newydd sy’n olrhain treftadaeth gyfoethog y theatr a pherfformio yn Aberhonddu, yn enwedig y dreftadaeth anghyffwrdd.
I gael mwy o wybodaeth a’r briff yn llawn, cliciwch yma.
Dyddiad cau derbyn cynigion: 12 hanner dydd, Gwener 15 Mawrth 2024