CELF YN Y BAR
Hoffem wahodd artistiaid a gwneuthurwyr sy’n byw ac yn gweithio’n lleol i ardal Aberhonddu i gyflwyno celf mewn ffrâm i’w werthu yn ein caffi. Os oes gennych gyfres fer o waith celf gwastad, rhwng pedwar ac wyth darn, a fyddai’n edrych yn dda yn ein Bar Theatr, rhowch wybod!
Detholir gwaith celf ar gyfer eu dangos gan dîm Rhaglen Arddangos y Theatr. Dangosir gweithiau celf a ddetholwyd am hyd at wyth wythnos fel rhan o raglen barhaus sy’n ceisio hybu gwaith celf artistiaid lleol, a chefnogi artistiaid drwy werthu’u gwaith. Mae pob gwaith celf yn y caffi ar werth, a bydd y Theatr yn cymryd comisiwn o 20%.
Dim ond cyfleoedd i arddangos gwaith gwastad neu mewn ffrâm a gynigir gan y Theatr, ac ystyr hyn yw unrhyw beth mewn ffrâm neu waith gwastad y gellir ei hongian gyda bachau lluniau. Mae rhai cyfyngiadau o ran maint y gwaith celf y gellir ei arddangos oherwydd natur y lle.
I gynnig arddangos eich gwaith celf yng Nghaffi’r Theatr, llenwch y Ffurflen Cynnig Arddangos yn y Caffi a’i hanfon atom dros e-bost, ynghyd â rhai lluniau lo-res. Os oes gan y Grŵp Rhaglen ddiddordeb, cewch wahoddiad i rannu eich gwaith gyda ni wyneb yn wyneb.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan!
Galw ar bob artist a gwneuthurwr
Ydych chi’n artist neu wneuthurwr a leolir yn Sir Frycheiniog? Mae Theatr Brycheiniog yn gwahodd pobl greadigol i gynnig gwaith celf i’w arddangos ym Mar y theatr fel rhan o’n rhaglen newydd Celf yn y Bar. Bydd eich gwaith yn cael ei ddangos ac ar werth am hyd at wyth wythnos. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i fod yn sicr o dderbyn galwadau am gyfleoedd i arddangos, neu ewch i dudalennau’r oriel ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth.