Choose language | Dewis iaith
gb cy
Theatr Brycheiniog, Brecon

BOX OFFICE | SWYDDFA DOCYNNAU  01874 611622

DROP US A LINE | ANFONWCH AIR ATOM
  • Menu
  • Hafan
  • Beth sy’n digwydd
  • Eich ymweliad
    • Diweddariad Am Yr Adeilad
    • Hygyrchedd
    • e-docynnau
    • Taith rithwir
  • Yr oriel
    • CELF YN Y BAR
    • Arddangosfa Bresennol
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
    • Arddangosfeydd y Dyfodol
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Staff
    • Cwrdd ag Aelodau’r Bwrdd
      • Penodi Aelodau Newydd o’r Bwrdd
    • Swyddi Gwag
    • Llogi’r Lle
    • Datganiad i'r wasg
  • Bwyd a Diod
  • Cefnogi ni
    • Pam dod yn Ffrind
    • PAM DOD YN NODDWR
    • Rhoi wrth Fyw
    • Cyfrannu
    • Keep Your Seat Warm
  • Cymryd Rhan
    • Cymryd Rhan
      • Sesiynau Canu Uplift
      • Gofal Cefn Arddull Pilates
      • Ymdrwytho’r Corff Arddull Pilates
      • Academi Ddawns Canolbarth Cymru
      • Band Cyngerdd Tref Aberhonddu
      • Y Gymdeithas Gelfyddydol: Brycheiniog
      • University of the 3rd Age
      • Yoga
    • Gwirfoddoli
  • Addysg
    • Adnoddau sydd ar gael
    • Archebwch
    • Anghenion addysgol arbennig

AM Y RHAGLEN ADNEWYDDU

image001.png

Bydd gwaith adnewyddu mawr ar Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, yn dechrau ddydd Llun (19 Chwefror) o ganlyniad i gyllid gwerth £1.8 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Grŵp SWG ar ran Cyngor Sir Powys a disgwylir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn yr hydref.

Bydd y theatr yn para ar agor drwy gydol y cyfnod hwn, gyda mynediad cyhoeddus wedi'igyfyngu mewn rhai ardaloedd lle mae gwaith dymchwel neu adeiladu'n digwydd.

Ymhlith ardaloedd eraill, ni fydd y brif fynedfa a’r caffi a gafodd eu hadnewyddu yn 2022 yn cael eu heffeithio.  

Mae'r gwaith adnewyddu yn cynnwys:

  • Toiledau cyhoeddus newydd i’r theatr a thoiledau newydd ar gyfer yr ystafelloedd gwisgo y tu ôl i’r llwyfan.
  • Uwchraddio’r holl osodiadau golau mewnol ac allanol, gan helpu i wneud yr adeilad yn fwy effeithlon o ran ynni.
  • Drysau a ffenestri allanol newydd ar draws yr adeilad.
  • Lifft cyhoeddus newydd blaen y tŷ.
  • Lifft nwyddau newydd.
  • Uwchraddio’r system trin aer yn yr awditoriwm, stiwdio ac ardaloedd cyhoeddus.

"Bydd y gwaith hwn yn gweld gwelliannau cyffrous ond angenrheidiol iawn i'r berl ddiwylliannolhon yng nghanol Aberhonddu," meddai'r Cynghorydd David Selby Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus y cyngor, "a fydd yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn fwy cynaliadwy i'w rhedeg yn y dyfodol.

"Mae llawer o'r seilwaith heb ei gyffwrdd ers iddi agor gyntaf yn 1997 felly mae angen ei uwchraddio."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Theatr Brycheiniog Eleri B. Jones: "Byddwn yn sicr yn para i fod ar agor drwy gydol y gwaith gwella a byddwn yn parhau i groesawu ymwelwyr a'n noddwyr gwerthfawr i'r adeilad.

"Efallai y bydd rhywfaint o darfu dros yr haf, ond byddwn yn gweithio'n hyblyg i barhau i gynnig ein hystod amrywiol o ddigwyddiadau lle bynnag y gallwn, gan gynnwys y tu allan yn ystod cyfnod prysur yr haf. Hoffem ddiolch i'n cynulleidfaoedd ymlaen llaw am fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn, ac rydym yn gobeithio y byddant yn parhau i fwynhau'r cyfan sydd gan ein canolfan gelfyddydol boblogaidd i'w gynnig."

Mae Theatr Brycheiniog yn gartref i awditoriwm 477 o seddi a stiwdio a gofod ymarfer 120 o seddi a ddefnyddir i gynnal rhaglen uchelgeisiol o gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg. Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r theatr ewch i: https://www.brycheiniog.co.uk/cy

Sicrhawyd yr arian i gwblhau'r gwaith o gronfa Ffyniant Bro y DU gan Dîm Datblygu Economaiddac Adfywio Cyngor Sir Powys ac mae ei Dîm Eiddo Strategol yn rheoli'r gwaith adeiladu.

Am fwy o wybodaeth am gronfa Ffyniant Bro y DU ym Mhowys e-bostiwch:UKLUF@powys.gov.uk

I gael gwybod mwy am gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ewch i:https://levellingup.campaign.gov.uk/

Ariannwyd y gwelliannau blaenorol i Theatr Brycheiniog gan Gyngor Celfyddydau Cymru,Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cyngor Tref Aberhonddu, Arnold Clark a Landmarc. Yn ystod y gwaith hwn adnewyddwyd y caffi, cegin, ardal y bar a'r cyntedd.

08 WCVA - Brand Final_Logo - Red.jpg​​​​​​​

Our address | Ein cyfeiriad

Theatr Brycheiniog
Canal Wharf
Brecon
Powys
LD3 7EW

Charity number | Rhif elusen 1005327

Telephone us | Ffonio ni

Box Office | Swyddfa docynnau
01874 611622

Administration | Gweinyddiaeth
01874 622838

Privacy policy and GDPR compliance

Supported by | Cefnogir gan...


© 2025 Theatr Brycheiniog
Sign In to Edit this Site
purpleandgreen