Llogi’r lle
Mae Theatr Brycheiniog yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, seremonïau gwobrwyo, digwyddiadau codi arian neu hyd yn oed briodasau, mewn ystod o ystafelloedd sydd ar gael i’w llog am brisiau cystadleuol, a phob un yn gallu cael amrywiaeth o ddulliau gosod.
Gall Theatr Brycheiniog gynnal cynadleddau mawrion (gyda lle i hyd at 470 o bobl eistedd yn y prif awditoriwm) a digwyddiadau llai gan ddefnyddio stiwdio’r theatr neu’r ystafell gyfarfod. Gwelir manylion llawn yr holl gyfleusterau isod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi Theatr Brycheiniog, e-bostiwch hires@brycheiniog.co.uk ac amlinellwch yr hyn sydd gennych mewn sylw.
Y PRIF AWDITORIWM
Gall yr Awditoriwm eistedd 470 dros dair lefel; 272 ar y llawr gwaelod, 92 yn y balconi, a 106 yn y balcon uwch. Mae’r seddau ar lefel y llawr yn gallu cael eu tynnu’n ôl gan adael lle addas i gynnal digwyddiadau llawr gwastad.
Y STIWDIO
Lle mawr agored sy’n gallu eistedd hyd at 120 o gynadleddwyr yw’r Stiwdio. Ceir ffenestri mawrion, drychau a llawr sbring, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer sesiynau dawns, ymarferion, gweithdai a darlithoedd.
YSTAFELL GYFARFOD UN
Gall yr ystafell gyfarfod eistedd hyd at 14 ar ddull ystafell y bwrdd. Mae’r ystafell hon, sydd â chegin fach â chyfleusterau gwneud te a choffi ynghlwm, yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd llai, gweithdai a sesiynau hyfforddi.
Oriel Andrew Lamont
Mae’r oriel ar lawr uchaf yr adeilad, ac mae’n ystafell olau, cynllun-agored. Dyma gartref Clwb Comedi misol y theatr ble gellir eistedd 123 o gwmpasllwyfan llai. Gellir eistedd 50 o bobl ar arddull cabaret yma, neu 80 ar ddull theatr.
Y BAR
Yn ogystal â bod ar agor tan i’r adeilad gau ar nosweithiau sioe, gellir llogi Bar ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol neu dderbyniadau busnes.