Gwybodaeth am Archebu
Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor o 9am tan 5pm. Hwyrach ar rai nosweithiau sioeau! Ar nosweithiau perfformiad bydd y Swyddfa Docynnau’n aros ar agor am 30 munud wedi’r amser dechrau a hysbysebir.
Rhaid talu 50c o dâl gweinyddol ar bob tocyn ar gyfer pob perfformiad a hyrwyddir gan Theatr Brycheiniog. Mae’r taliad hwn yn cyfrannu at dalu am ein costau manwerthu tocynnau a phrosesu taliadau’n ddiogel.
Ar lein
Gallwch archebu tocynnau ar lein 24 awr y dydd. I edrych yn fanylach ar ein cynlluniau eistedd, edrychwch ar ein gwyliwr seddi rhithwir.
DROS Y FFÔN
Rhowch alwad i dîm y Swyddfa Docynnau ar 01874 611622 i archebu eich tocynnau dros y ffôn. Eu nod yw ateb pob galwad gynted â phosib, ond nodwch y gall fod adegau pan fyddant yn rhoi sylw i gwsmer arall ac yn methu â derbyn eich galwad. Os gadewch neges lais, byddant yn eich galw’n ôl ar y cyfle cyntaf.
YN BERSONOL
Galwch i mewn i’r Swyddfa Docynnau, ble gallwch dalu ag arian parod, cerdyn neu Dalebau Theatr Cenedlaethol.
ARCHEBION GRŴP
Cynigir prisiau gostyngedig mewn sawl perfformiad pan fyddwch chi’n dod a pharti o 10 neu ragor, heblaw am rai perfformiadau sy’n llogiadau. Gwiriwch fanylion yn y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda.
ARCHEBION YSGOL
Os ydych chi’n drefnydd ysgol neu grŵp, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i drafod anghenion eich grwpiau ac i weld beth arall y gall Theatr Brycheiniog ei gynnig i chi.
GOSTYNGIADAU
Ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau, ac eithrio llogiadau, cynigir gostyngiadau ar gyfer y canlynol: rhai dan 16 oed; aelodau Equity; aelodau HYNT; aelodau’r lluoedd arfog; pobl a gofrestrwyd yn anabl; yr henoed 66+ a myfyrwyr. Dewch â thystiolaeth eich bod yn gymwys gyda chi i’r perfformiad.
AD-DALIADAU A CHYFNEWID TOCYNNAU
Os na allwch chi ddod i ddigwyddiad er i chi brynu tocynnau, gallwch gyfnewid eich tocynnau ar gyfer digwyddiad arall am gost o £2.00 y tocyn. Os na allwch gyfnewid eich tocyn(nau), cewch ad-daliad am gost o £4.00 y tocyn. Rhaid i unrhyw gais am ad-daliad a wneir fwy na 48 awr cyn y digwyddiad ddod ar ffurf ysgrifenedig drwy lythyr neu e-bost at info@brycheiniog.co.uk i sylw Rheolwr y Lleoliad. Nodwch os gwelwch yn dda bod yn rhaid i bob ad-daliad gael ei wneud drwy’r un dull a ddefnyddiwyd i dalu.
DISGOWNTIAU A CHYNIGION HYRWYDDO
Mae Theatr Brycheiniog yn cadw’r hawl i gyflwyno ac atal disgownts a chynigion hyrwyddo ar unrhyw adeg. Ni ad-delir gwahaniaeth pris ar unrhyw adeg yn achos tocynnau’n cael eu prynu cyn i ddisgownt neu gynnig hyrwyddo gael ei hysbysebu neu’i gyflwyno.
DRWY’R POST
Gellir postio tocynnau at bobl sy’n prynu yn y DU drwy ail ddosbarth am dâl o £1.25 yr archeb. Os dymunwch dderbyn eich tocynnau drwy’r post, dewiswch ‘postio’ wrth archebu ar lein neu holwch wrth archebu dros y ffôn.Yn achos digwyddiadau pan fo’r theatr o’r farn y gall cwsmeriaid geisio ailwerthu tocynnau ar lein am brisiau uwch, neilltuir yr hawl i beidio â phostio tan fis cyn dyddiad y perfformiad. Os na ddewisoch chi dderbyn eich tocynnaudrwy’r post, cânt eu cadw yn y Swyddfa Docynnau tan ddechrau’r sioe.