Choose language | Dewis iaith
gb cy
Theatr Brycheiniog, Brecon

BOX OFFICE | SWYDDFA DOCYNNAU  01874 611622

DROP US A LINE | ANFONWCH AIR ATOM
  • Menu
  • Hafan
  • Beth sy’n digwydd
  • Eich ymweliad
    • Diweddariad Am Yr Adeilad
    • Hygyrchedd
    • e-docynnau
    • Taith rithwir
  • Yr oriel
    • CELF YN Y BAR
    • Arddangosfa Bresennol
    • Arddangosfeydd y Gorffennol
    • Arddangosfeydd y Dyfodol
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Staff
    • Cwrdd ag Aelodau’r Bwrdd
      • Penodi Aelodau Newydd o’r Bwrdd
    • Swyddi Gwag
    • Llogi’r Lle
    • Datganiad i'r wasg
  • Bwyd a Diod
  • Cefnogi ni
    • Pam dod yn Ffrind
    • PAM DOD YN NODDWR
    • Rhoi wrth Fyw
    • Cyfrannu
    • Keep Your Seat Warm
  • Cymryd Rhan
    • Cymryd Rhan
      • Sesiynau Canu Uplift
      • Gofal Cefn Arddull Pilates
      • Ymdrwytho’r Corff Arddull Pilates
      • Academi Ddawns Canolbarth Cymru
      • Band Cyngerdd Tref Aberhonddu
      • Y Gymdeithas Gelfyddydol: Brycheiniog
      • University of the 3rd Age
      • Yoga
    • Gwirfoddoli
  • Addysg
    • Adnoddau sydd ar gael
    • Archebwch
    • Anghenion addysgol arbennig

Gwybodaeth am Archebu

Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor o 9am tan 5pm. Hwyrach ar rai nosweithiau sioeau!  Ar nosweithiau perfformiad bydd y Swyddfa Docynnau’n aros ar agor am 30 munud wedi’r amser dechrau a hysbysebir.

Rhaid talu 50c o dâl gweinyddol ar bob tocyn ar gyfer pob perfformiad a hyrwyddir gan Theatr Brycheiniog. Mae’r taliad hwn yn cyfrannu at dalu am ein costau manwerthu tocynnau a phrosesu taliadau’n ddiogel.

Ar lein

Gallwch archebu tocynnau ar lein 24 awr y dydd. I edrych yn fanylach ar ein cynlluniau eistedd, edrychwch ar ein gwyliwr seddi rhithwir.

DROS Y FFÔN

Rhowch alwad i dîm y Swyddfa Docynnau ar 01874 611622 i archebu eich tocynnau dros y ffôn. Eu nod yw ateb pob galwad gynted â phosib, ond nodwch y gall fod adegau pan fyddant yn rhoi sylw i gwsmer arall ac yn methu â derbyn eich galwad. Os gadewch neges lais, byddant yn eich galw’n ôl ar y cyfle cyntaf.

YN BERSONOL

Galwch i mewn i’r Swyddfa Docynnau, ble gallwch dalu ag arian parod, cerdyn neu Dalebau Theatr Cenedlaethol.

ARCHEBION GRŴP

Cynigir prisiau gostyngedig mewn sawl perfformiad pan fyddwch chi’n dod a pharti o 10 neu ragor, heblaw am rai perfformiadau sy’n llogiadau. Gwiriwch fanylion yn y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda.

ARCHEBION YSGOL

Os ydych chi’n drefnydd ysgol neu grŵp, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i drafod anghenion eich grwpiau ac i weld beth arall y gall Theatr Brycheiniog ei gynnig i chi.

GOSTYNGIADAU

Ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau, ac eithrio llogiadau, cynigir gostyngiadau ar gyfer y canlynol: rhai dan 16 oed; aelodau Equity; aelodau HYNT; aelodau’r lluoedd arfog; pobl a gofrestrwyd yn anabl; yr henoed 66+ a myfyrwyr. Dewch â thystiolaeth eich bod yn gymwys gyda chi i’r perfformiad.

AD-DALIADAU A CHYFNEWID TOCYNNAU

Ni fydd modd rhoi'r holl arian yn ôl am docynnau oni bai bod y digwyddiad wedi cael ei ganslo. Hyd at 48 awr cyn sioe, gellir trosglwyddo tocynnau i sioe arall neu'u cyfnewid am daleb ar gyfrif, ar gost o £2 y tocyn.

DISGOWNTIAU A CHYNIGION HYRWYDDO

Mae Theatr Brycheiniog yn cadw’r hawl i gyflwyno ac atal disgownts a chynigion hyrwyddo ar unrhyw adeg. Ni ad-delir gwahaniaeth pris ar unrhyw adeg yn achos tocynnau’n cael eu prynu cyn i ddisgownt neu gynnig hyrwyddo gael ei hysbysebu neu’i gyflwyno.

DRWY’R POST

Gellir postio tocynnau at bobl sy’n prynu yn y DU drwy ail ddosbarth am dâl o £1.25 yr archeb. Os dymunwch dderbyn eich tocynnau drwy’r post, dewiswch ‘postio’ wrth archebu ar lein neu holwch wrth archebu dros y ffôn.Yn achos digwyddiadau pan fo’r theatr o’r farn y gall cwsmeriaid geisio ailwerthu tocynnau ar lein am brisiau uwch, neilltuir yr hawl i beidio â phostio tan fis cyn dyddiad y perfformiad. Os na ddewisoch chi dderbyn eich tocynnaudrwy’r post, cânt eu cadw yn y Swyddfa Docynnau tan ddechrau’r sioe.

Swyddfa Docynnau – 01874 611622

Eich ymweliad

Taith rithwir

Hygyrchedd

Our address | Ein cyfeiriad

Theatr Brycheiniog
Canal Wharf
Brecon
Powys
LD3 7EW

Charity number | Rhif elusen 1005327

Telephone us | Ffonio ni

Box Office | Swyddfa docynnau
01874 611622

Administration | Gweinyddiaeth
01874 622838

Privacy policy and GDPR compliance

Supported by | Cefnogir gan...


© 2025 Theatr Brycheiniog
Sign In to Edit this Site
purpleandgreen