Recent posts
Theatr Brycheiniog yn sicrhau Mwy o Gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Theatr Brycheiniog yn falch o gyhoeddi iddi fod yn llwyddiannus unwaith eto wrth sicrhau cefnogaeth ariannol mewn argyfwng oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru. Yn dilyn y newyddion fod y Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi cael ei ymestyn i gefnogi sector ddiwylliannol amrywiol Cymru drwy gydol y pandemig parhaus, mae Theatr Brycheiniog yn falch iawn o gyhoeddi eu bod yn mynd i dderbyn ail gylch o gefnogaeth ariannol.
Cafodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a fydd yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, ei lansio dros yr haf diwethaf, gan ddarparu £63.3m yn 2020-21 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a hunanliwtwyr.
Bu’r deunaw mis diwethaf yn amser caled i’r diwydiant cyfan ac mae’r cyllid hwn yn helpu i lenwi’r bwlch ariannol o ganlyniad i golli pob incwm a enillir, fwy neu lai. Mae cyllid hanfodol fel hwn yn rhoi help llaw achubol, nid yn unig drwy wella sicrwydd ariannol Theatr Brycheiniog ymhellach, ond drwy alluogi’r sefydliad celfyddydol i barhau i weithredu, cadw swyddi, talu costau cynnal y sefydliad a chefnogi’r lleoliad wrth i waith cynllunio ddigwydd er mwyn agor gyda rhaglen gref o ddigwyddiadau.
Mewn ymateb i’r newyddion am y cyllid diweddaraf hwn oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Theatr Brycheiniog David Wilson: “Mae’r cyllid hwn yn hanfodol ar gyfer y diwydiannau creadigol a diwylliannol i fynd i’r afael â’r heriau hirdymor a gododd o ganlyniad i’r pandemig. Edrychwn ymlaen at barhau â’n hadferiad ar ôl y pandemig a chael cyfle i weld ein rhaglenni’n ailddechrau. Mae’r cyllid hwn yn sicrhau y gallwn ystyried dyfodol i leoliad celfyddydol cynyddol lachar, deinamig a chynhwysol ynghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”
Mae Theatr Brycheiniog eisoes wedi ailagor gan ddarparu’r Caffi Diwylliant, ond mae’n gobeithio gwneud mwy o ddatganiadau’n ddiweddarach yn 2021 ynghylch pryd y gall perfformiadau byw dan do ailddechrau. Er bod y sefyllfa’n parhau i fod yn aneglur ar hyn o bryd, mae’r sefydliad celfyddydol a leolir yn Aberhonddu yn parhau i gynllunio detholiad cyffrous o ddigwyddiadau er mwyn croesawu cynulleidfaoedd yn ôl mor fuan, ac mor ddiogel, â phosib.
Ariennir Theatr Brycheiniog gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Aberhonddu.
-Diwedd-