Choose language | Dewis iaith
gb cy
Theatr Brycheiniog, Brecon

BOX OFFICE | SWYDDFA DOCYNNAU  01874 611622

Recent posts


Spotlight On: Aladdin Pantomime, 'It's An Act'
November 25, 2024
Q & A with It’s An Act Director – Jack Llewellyn Family Ticket: £65 (plus fees) for 2 Adults & 2 Children Under 16, or 1 Adult and 3 Children Under 16 for all performances Running Time: 2 Hours 10 minutes (Including 20 Interval)
Holly At Christmas 2024 32 Years of Rock ’n’ Rolling The World
November 15, 2024
Join Theatr Brycheiniog on Monday the 25th of November as we welcome Buddy Holly and The Cricketers onto our stage for a rocking night! The perfect Christmas night out!
The Very Hungry Caterpillar Show Will Begin Performances at Theatr Brycheiniog on Saturday 23rd to Sunday 24th November.
November 15, 2024
This much-loved children’s classic by Eric Carle is brought to life on stage through vibrant puppetry and will mesmerise young audiences, making it a magical family outing, the perfect family Show in the lead up to Christmas!
October 24, 2024
Autumn has arrived at Theatr Brycheiniog, and we are excited to unveil our brand new programme packed with thrilling events and shows perfect for families and young theatre enthusiasts. With half term just around the corner, it's the perfect time to plan some family outings and immerse yourselves in the wonderful world of the arts! At Theatr Brycheiniog, we believe that sharing experiences together creates lasting memories. Our venue is not only family-friendly but also welcomes your furry friends, making it the ideal spot for a day out.

Sioeau’n Gwerthu Pob Tocyn Wrth i Gynulleidfaoedd Ddychwelyd i Theatr Brycheiniog

Posted by velvet at 12:51 PM on Aug 26, 2021

Share:


Mae Theatr Brycheiniog yn dathlu gallu croesawu pobl yn ôl i berfformiadau byw o’r diwedd, ac eisoes mae sioeau’n gwerthu pob tocyn wrth iddyn nhw agor eu rhaglen dymhorol hirddisgwyliedig y bu cymaint o ddyheu amdani.

Ar 5 Awst, bu un o fandiau mwyaf hoff a mwyaf cyffrous sîn De Cymru, Easy Street, yn rhoi sioe fythgofiadwy wrth iddyn nhw ddod â chynulleidfaoedd yn ôl i’r arfer o gael digwyddiadau byw yn Nhymor yr Haf y theatr, gyda jazz ac adloniant ysgafn gwych; dyma olygfa a fu ar goll o Theatr Brycheiniog am y rhan fwyaf o 2020 a 2021.

Wythnos yn ddiweddarach, comedi byw oedd yn diddanu cynulleidfaoedd wrth i Little Wander ddychwelyd i Theatr Brycheiniog â’u Clwb Comedi bythol-boblogaidd! Roedd y sioe hon a werthodd bob tocyn yn cynnwys Leila Navabi, Robin Morgan a Michael Fabbri – pob un yn wefreiddiol – ac roedd aelodau’r gynulleidfa’n awyddus i archebu tocynnau i weld  Nish Kumar (The Mash Reprt, Q.I., Mock The Week & Live At The Apollo, Have I Got News For You, 8 Out of 10 Cats Does Countdown a Taskmaster) yn Theatr Brycheiniog ym mis Ebrill 2022.

Nid comedi oedd yr unig sioe i werthu pob sedd chwaith, â Bale Gŵyl Aberhonddu’n gyffro i gyd o gael bod yn ôl yn Theatr Brycheiniog, gyda’r cipolwg ‘tu ôl i’r llenni’ i gynulleidfaoedd yn hollol lawn. Achubodd pobl ar y cyfle i weld sut y bydd dawnswyr bale proffesiynol yn hyfforddi, yn ymarfer ac yn perfformio. Gyda chyfeiliant y pianydd gwych, Philip Feeney, cafodd y gynulleidfa gip ymlaen llaw ar rai o uchafbwyntiau perfformiadau arfaethedig BGA ar gyfer mis Rhagfyr, a chafwyd y fraint o weld bale byr Newydd “Plea” a grëwyd gan Katy Sinnadurai yn ystod y cyfnod clo cyntaf i fynegi profiadau o rwystredigaeth, tristwch ac unigrwydd a deimlwyd gan gynifer ohonom yn 2020.

Mae pob sioe’n dilyn mesurau arbennig a roddwyd ar waith i flaenoriaethu diogelwch cynulleidfaoedd a staff y theatr. Yn ôl David Wilson. Cyfarwyddwr Theatr Brycheiniog: “Cael cynulleidfaoedd yn ôl i’r adeilad a chlywed y llawenydd sy’n dod yn ei sgil yw’r union beth y mae theatrau wedi bod yn aros amdano. Rydyn ni wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol, mae pawb wedi bod wrth eu bodd o gael gwylio sioe fyw eto, ac maen nhw wedi bod yn fodlon dilyn ein canllawiau diogelwch Covid. Yn Theatr Brycheiniog rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelwch ein cynulleidfaoedd, ein perfformwyr a’n staff, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi fod hyn yn dal i fod yn adeg ofidus i rai pobl o hyd. Byddwn ni’n parhau i ddilyn gweithdrefnau olrhain a phrofi, parchu pellter cymdeithasol a pharhau i wisgo mygydau, ac rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio ein gorsafoedd diheintio dwylo wrth iddyn nhw fynd i mewn ac allan o’r adeilad. Am fod niferoedd y tocynnau’n parhau i fod yn gyfyngedig ar gyfer pob digwyddiad, rydyn ni’n annog pobl i archebu’n gynnar er mwyn sicrhau na fyddan nhw’n colli’r cyfle i weld y sioeau gwych hyn. Rydyn ni eisoes wedi gwerthu pob tocyn i sawl sioe, ond byddwn ni’n parhau i gadw niferoedd cynulleidfaoedd yn gyfyngedig er mwyn sicrhau fod pobl yn teimlo’n ddiogel.”

Un o gefnogwyr y lleoliad lleol hwn a gamodd i’r adwy i gynnig cefnogaeth yn ystod y pandemig a sicrhau fod Theatr Brycheiniog yn barod i dderbyn cynulleidfaoedd unwaith eto oedd yr artist, awdur a chyfarwyddwr theatr Phil Clark. Meddai Phil: “Pwrpas unrhyw adeilad theatr yw darparu llwyfan cyhoeddus ar gyfer y lleisiau creadigol niferus ac amrywiol sydd yn ei chymuned. Does dim amheuaeth fod y byd fel yr ydym ni’n ei brofi wedi cael ei niweidio’n ddrwg o ganlyniad i epidemig COVID, ac fel y profodd hanes, rhaid i greadigrwydd a mynegiant diwylliannol chwarae rhan bwysig wrth wella ein byd clwyfus a bregus. Drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Theatr Brycheiniog wedi ymgysylltu â’i chymuned mewn cymaint o ffyrdd dyfeisgar, gan sicrhau fod artistiaid, actorion, cynllunwyr, dawnswyr, gwneuthurwyr ffilm, beirdd, dramodwyr a phobl greadigol luosog arall wedi parhau i gael llwyfan ar gyfer mynegi a dathlu. Rhaid i ni drysori a meithrin ein sefydliadau diwylliannol a sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol yn etifeddu diwylliant cadarnhaol a chynhwysol sy’n annog pawb i ddarganfod ei lais cyhoeddus gyda hyder. Diolch Theatr Brycheiniog am bopeth a wnaethoch chi i feithrin creadigrwydd ar draws y cenedlaethau, a’r ffurfiau celfyddyd mynegiannol drwy gydol y cyfnod cythryblus hwn.”

Mae pob sioe’n digwydd ar hyn o bryd yn y gosodiad Caffi Diwylliant Newydd; dathliad o’r myrdd pobl wych a fyddai fel arfer yn defnyddio lle Theatr Brycheiniog. Sy’n troi o fod yn lleoliad caffi bywiog yn ystod y dydd i fod yn brofiad theatrig unigryw gyda’r nos, cystal â dim a gynigir yng Nghaerdydd, Llundain neu Gaeredin. Dyma leoliad a fu’n bosib diolch i gynllunio creadigol a mewnbwn gan Phil ar anterth y pandemig, pan orfodwyd Theatr Brycheiniog i aros ar gau.

Er bod llawer o’r adeilad yn dal i fod ar gau, bydd mynychwyr y theatr yn dal i allu mwynhau bwydlen a guradwyd yn arbennig sy’n cynnwys bwyd a diod penodol i bob digwyddiad drwy gyfrwng gwasanaeth wrth y bwrdd, y gellir ei archebu ymlaen llaw neu drwy gyfrwng ap newydd ar y noson – boed yn boteli gwin neu’n fwcedi o gwrw.

Mae rhaglen orlawn o gomedi, drama, cerddoriaeth a pherfformiadau cymunedol yn parhau gyda’r sioe addas ar gyfer teuluoedd, The Great Insect Games, ar 25 a 26 Awst, sy’n cynnwys seremoni agoriadol yn gyforiog o drychfilod mewn sioe lawn sbort ar gyfer y teulu cyfan.

Ar 2 Medi, mae Theatr Brycheiniog yn eich gwahodd i ymuno â Kevin Walker, awdur “Nature of the Brecon Beacons”wrth iddo fynd â’r gynulleidfa ar daith ddarganfod drwy’r Parc Cenedlaethol i werthfawrogi manylder hardd byd natur sydd o’n cwmpas, ac i ystyried gorffennol, presennol a dyfodol yr ardal eithriadol ddeniadol hon.

Mae Theatr Brycheiniog bellach yn cynllunio rhaglen y tymor nesaf sy’n cynnwys cerddoriaeth hard gan y rhagorol Opera Canolbarth Cymru ym mis Hydref, ynghyd â Gŵyl Faróc Aberhonddu, sy’n fawr ei chlod, yn ddiweddarach yn ystod y mis hwnnw. Bydd Tymor yr Hydref hefyd yn gweld y cwmni dawns arobryn, Ballet Cymru, yn dod â’u bale newydd eithriadol, a ohiriwyd cyn hyn, i Aberhonddu, wrth iddyn nhw adrodd stori Giselle, merch ifanc sy’n cwympo mewn cariad â’r person anghywir ac sy’n talu pris drud iawn. Ym mis Tachwedd, mae Speakers From The Edge yn ôl gyda’r siaradwr ysgogol gorau o fyd antur, darganfod, chwaraeon eithafol a hirddioddef, sydd wedi gwthio’u hunain, yn llythrennol, i’r ymyl.

Gellir archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn ar theatrbrychieniog.co.uk, neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01874 611622.

 

 -DIWEDD-