Recent posts
Danteithion Nadoligaidd o’r Nutcracker wrth i Theatr Brycheiniog ddatgelu cynlluniau cyffrous ar gyfer cynulleidfaoedd yn ystod tymor yr Ŵyl!
Mae Christmas Treats from the Nutcracker yn ffordd berffaith o fwynhau tymor dathlu’r Nadolig eleni wrth i Fale Gŵyl Aberhonddu ddychwelyd i Theatr Brycheiniog ar ôl bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig.
Yn ôl yn 2019, cyflwynodd y cwmni gynhyrchiad llawn cyntaf erioed Cymru o fale enwog Tchaikovsky, The Nutcracker, a werthodd bob sedd ar gyfer pob un perfformiad. Eleni bydd Christmas Treats from the Nutcracker yn cynnwys pob un o’ch ffefryn-ddarnau o The Nutcracker, gydag ambell syrpreis ychwanegol! All eu dawnswyr proffesiynol ddim aros i ddychwelyd i’r llwyfan i synnu a swyno cynulleidfaoedd unwaith eto. Bydd myfyrwyr dawns lleol dawnus hefyd yn ymddangos, ac fe welwch chi ddangosiad cyntaf o fale newydd Bale Gŵyl Aberhonddu, “Plea”, a grëwyd yn ystod cyfnod clo 2020, ac a osodir ar gerddoriaeth odidog Ail Gonsierto Shostakovich ar gyfer ypiano.
Yn ôl David Wilson, Cyfarwyddwr Theatr Brycheiniog: “Mae pawb mor gyffrous i gael rhannu ein cynlluniau ar gyfer perfformiadau rhwng 16 a 19 Rhagfyr. Oherwydd y rhaglen waith barhaus i wella ein hadeilad ac am na fydd gan y sioe hon gyfyngiadau o ran niferoedd, rydyn ni’n gofyn i bobl rag-archebu eu diodydd cyn y sioe ac yn ystod yr egwyl gyda ni! Bydd gennym siocled poeth Nadoligaidd a gwin poeth sbeislyd ar gael, ynghyd â chynnig arbennig o fwyd stryd y tu fas i’r adeilad.” Aeth David ymlaen i ddweud “Rydyn ni’n annog pobl i geisio osgoi‘r ciwiau, er y bydd hi’n anorfod y bydd yn rhaid ciwio ychydig i fynd i mewn i’r theatr, ac argymhellwn eich bod chi’n archebu eich diodydd gyda ni cyn gynted ag y gallwch. Rydyn ni hefyd wir angen atgoffa ein cynulleidfaoedd fod Pasys Covid bellach yn orfodol er mwyn gallu mynychu perfformiad, ond er mwyn helpu pobl gymaint ag y gallwn gyda hyn, rydyn ni wedi rhestru gwybodaeth am Basys Covid ar ein gwefan, ac os oes gan unrhyw un gwestiynau, byddwn ni’n croesawu ymholiadau a gyfeirir at ein tîm cyfeillgar yn y swyddfa docynnau.”
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru estyn y defnydd o Basys Covid y GIG i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd 2021, gan olygu fod yn rhaid i bawb sy’n 18 oed a hŷn ac yn mynychu digwyddiad theatr ddangos statws Covid dilys wrth fynd i mewn bellach er mwyn mynychu digwyddiadau’n gyfreithlon.
Er mwyn gwybod am y newyddion, digwyddiadau a diweddariadau diweddaraf gan Theatr Brycheiniog ewch i brycheiniog.co.uk. neu cysylltwch â thîm y swyddfa docynnau ar 01874 611622.