Recent posts
Cyngor Tref Aberhonddu am helpu ymwelwyr i’r tŷ bach yn Theatr Brycheiniog
Cyngor Tref Aberhonddu am helpu ymwelwyr i’r tŷ bach yn Theatr Brycheiniog
Er mwyn cadw gwasanaeth i safon cwrdd â’r galw, mae Cyngor Tref Aberhonddu wedi cytuno i gyllidebu ar gyfer rhoi mwy o gefnogaeth ariannol i Theatr Brycheiniog i’w helpu i wella’u cyfleusterau toiledau wythnos nesaf, fel rhan o raglen adnewyddu ehangach sydd ar y gweill gan y theatr ar gyfer 2022 a thu hwnt.
Yn ogystal â darparu’r lleoliad perffaith ar gyfer celfyddydau cymunedol ac adloniant o safon uchel, mae Theatr Brycheiniog hefyd yn lleoliad poblogaidd ble bydd pobl leol ac ymwelwyr yn galw i mewn i ddefnyddio’r cyfleusterau. Yn ôl y Cynghorydd Chris Walsh, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chomisiynu Cytundebau, “Mae Cyngor Tref Aberhonddu’n cydnabod pwysigrwydd y cyfleusterau tai bach hyn i’r gymuned leol, busnesau, ymwelwyr a thwristiaid ac rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol i’r theatr er mwyn cefnogi moderneiddio’r toiledau.”
Ers ei adeiladu yn 1996, mae’r lleoliad celfyddydau poblogaidd bellach yn dangos tipyn o ôl traul anorfod. Ond mae’r adeilad wrthi’n mynd drwy broses o newid mewnol sylweddol wrth i waith adnewyddu o bwys ddigwydd yno. Gofynnir i ymwelwyr â Theatr Brycheiniog fod yn amyneddgar wrth i’r newidiadau hyn ddigwydd. Meddai’r Cynghorydd John Powell, Maer Aberhonddu, “Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r prosiect adnewyddu arfaethedig o’n partneriaeth barhaus â Theatr Brycheiniog.”
Ychwanegodd David Wilson, Cyfarwyddwr Theatr Brycheiniog, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at symud ymlaen at y cam nesaf o’n cynllun adnewyddu ac rydyn ni’n llawn cyffro o weld ein hadeilad yn parhau i wella flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Gyngor Tref Aberhonddu am eu cyfraniad i’r gwaith ailddatblygu hwn, yn ogystal â’u cefnogaeth barhaus, ac rydyn ni’n falch o gael perthynas weithredol mor gadarnhaol sy’n dod â chynifer o fanteision yn ei sgil i bobl Aberhonddu a thu hwnt.”
Yn ddiweddar, cymerodd Theatr Brycheiniog ran ym mheilot Bysgio Tref Aberhonddu, a farnwyd i fod yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o adborth cadarnhaol, a disgwylir iddo ddychwelyd yn y gwanwyn 2022.
I gael yr holl newyddion, digwyddiadau a diweddariadau diweddaraf am Theatr Brycheiniog ewch i brycheiniog.co.uk.
-Diwedd-