Recent posts
Artist lleol Phil Clark yn dod â’i arddangosfa ddiweddaraf i Theatr Brycheiniog
Daw’r artist lleol Phil Clark â’r arddangosfa ddiweddaraf i Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, wrth i’r lleoliad celfyddydau poblogaidd ddechrau ailagor yn llwyr i’r cyhoedd ar ôl y pandemig.
Mae At The Waters Edge / Ar Lan y Dŵr yn arddangosfa o brintiau gwreiddiol gan Phil Clark a fydd i’w gweld yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu drwy gydol mis Thachwedd a Rhagfyr ac i mewn i fis Ionawr 2022.
Ac yntau’n gyfarwyddwr theatr uwchlaw dim arall, mae Phil wedi gweithio fel artist gweledol ochr yn ochr â’i waith theatr erioed. Yn 2016, ef oedd enillydd Gwobr Stiwdio Agored gyntaf Saatchi, aeth i rownd derfynol Gwobr Ddarlunio Ryngwladol Derwent gan arddangos yn y Mall Galleries yn Llundain 2018 a bu hefyd yn rownd derfynol Arddangosfa Argraffu Ryngwladol 2021. Mae wedi arddangos gwaith dros y 40 mlynedd ddiwethaf, a chafodd arddangosfeydd unigol yn Aberhonddu, Caerdydd, Gweriniaeth Czech a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Yn 1998, dewiswyd gwaith Phil gan Gyfarfod Uwchgynhadledd Ewrop a’r Byd yng Nghaerdydd i’w arddangos yn yr ystafelloedd oedd yn lletya Nelson Mandela. Mae ef wedi arddangos yn Oriel Glan yr Afon, Cas-gwent, ac arddangosfeydd haf a Nadolig Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Roedd hefyd yn un a ddaeth i rownd derfynol Cystadleuaeth Gelf Genedlaethol Laing. Yn ddiweddar mae Phil wedi arddangos yn y Print Shed, Henffordd, ac Oriel Haymakers yn y Gelli Gandryll. Cymerodd ran hefyd yn y Gyfnewidfa Argraffu Genedlaethol, a bu’n gyfranogwr rheolaidd yng Ngŵyl hArt yn Henffordd dros gyfnod o sawl blwyddyn. Cafodd Phil arddangosfeydd unigol yn Adeilad Senedd Cymru ym Mae Caerdydd ac Oriel FOUND yn Aberhonddu hefyd.
Yn ôl Phil: “Mae paentio wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Does dim un diwrnod yn mynd heibio pan na fydda i’n meddwl am beintio, yn ystyried ei wneud, neu’n mynd ati i beintio. I mi, mae peintio’n ffordd o allu ymateb yn weledol i’r byd. Drwy gyfrwng lliw, siâp, llinell, gwead a ffurf, dwi’n archwilio’r byd yn barhaus ac yn galluogi fy hun i gael deialog â natur.“
Ychwanegodd David Wilson, Cyfarwyddwr yn Theatr Brycheiniog: “Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu ailagor ein horiel o’r diwedd, a beth sy’n well na gwneud hynny gydag arddangosfa mor hardd ac awgrymog gan yr artist lleol Phil Clark. Dyma gam arall i gyfeiriad gallu agor ein hadeilad yn llawn i’r cyhoedd unwaith eto. Mae ein horiel yn y to yn lle perffaith i ddianc iddo, a hoffem groesawu pawb i weld gwaith Phil dan eu pwysau, yn hollol rad ac am ddim.“
Bydd Phil yn cynnal dangosiad preifat am 6pm ddydd Gwener 3 Rhagfyr am awr, a bydd hefyd ar gael i gwrdd â phobl, ateb cwestiynau neu drafod ei waith yn ystod oriau agor yr oriel ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr. Bydd darnau pellach o stiwdio Phil ar gael ar y dydd Sadwrn am bris gostyngol arbennig. Dyma’r cyfle perffaith i wneud ychydig o siopa Nadolig, prynu’n lleol a chefnogi artist lleol!
I gael mwy o fanylion am Phil Clark a’i waith ewch i phil-clark.org.
I gael yr holl newyddion, digwyddiadau a diweddariadau diweddaraf am Theatr Brycheiniog ewch i brycheiniog.co.uk.