Recent posts



Enwi Theatr Brycheiniog fel Lleoliad Arbrofi Digwyddiadau i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau dros yr wythnosau nesaf, gan weithio gyda phartneriaid i gyflawni digwyddiadau a fydd yn datblygu prosesau a chanllawiau i alluogi i ddigwyddiadau ddychwelyd i Gymru. os bydd y rhaglen digwyddiadau arbrofol yn llwyddo i fod yn ddiogel a llwyddiannus, bydd yn galluogi i ddigwyddiadau â mwy o bobl ynddynt i ddigwydd mewn stadiymau, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae Theatr Brycheiniog yn croesawu’r newyddion yn arbennig, ac rydym yn falch o fod yn un o’r lleoliadau a ddewiswyd i gychwyn y digwyddiadau peilot wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau i lacio yng Nghymru.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Bu’n ddeunaw mis hir ac anodd i’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru – i berchnogion digwyddiadau a’r rhai sy’n dibynnu ar y sector i gael gwaith – ac i’r bobl sy’n dyheu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru. Wrth i ni ystyried codi’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot a fydd yn digwydd mewn ystod eang o leoliadau a mathau o ddigwyddiad. Mae’r digwyddiadau hy yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond bydd mynediad i fynychwyr – bod yn cymryd rhan neu’n gwylio – yn cael ei reoli’n llym gan y trefnwyr ac wedi’i gytuno ymlaen llaw.”
Mae’r Theatr yn cyhoeddi y bydd eu digwyddiad nhw mewn partneriaeth â Theatr na nÓg, ac ar y cyd, byddant yn cyflwyno sioe deulu ar 3 a 4 Mehefin. Am fod angen rhoi trefn derfynol ar y protocolau gyda’r awdurdodau, gwneir cyhoeddiadau pellach am y sioe, tocynnau ac unrhyw ofynion pellach maes o law.
Meddai David Wilson, Cyfarwyddwr y Theatr yn Theatr Brycheiniog: “Dwi wrth fy modd y byddwn ni’n gallu ymgysylltu â digwyddiadau unwaith eto. Nid yn unig gallwn groesawu pobl yn ôl (gan gadw o fewn canllawiau Covid o hyd) ond mae hefyd yn rhoi gwaith a chefnogaeth angenrheidiol i’r gweithwyr yn y sector. Rydw i hefyd yn arbennig o falch ein bod ni’n darparu ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc ar adeg fel hon gyda’r tîm gwych yn Theatr na nÓg. Mae ein diolch hefyd i Lywodraeth Cymru am roi cyfle a chefnogaeth i ni gyda’r rhaglen arbrofi digwyddiadau byw.”
Yn ôl Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg: “Mae wir yn fendigedig gallu cyflwyno theatr byw i’n cynulleidfaoedd unwaith eto. Mae Theatr na nÓg yn falch iawn o’r cyfan a gyflawnwyd gennym yn ystod y cyfnod clo, ond does dim byd yn cymharu â’r profiad theatrig byw, ac mae bod yn rhan o’r fenter hon i wneud theatr yn ddiogel yn fraint o’r mwyaf.”
Cafodd y digwyddiadau peilot hyn eu dethol ar ôl trafod gyda bwrdd prosiectau Llywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen y digwyddiad prawf a pherchnogion y digwyddiad. Bydd protocol profi ac asesiad risg yn cael ei deilwra ar gyfer pob digwyddiad.
Bydd manylion pellach a gwybodaeth ynghylch sut i archebu yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, ein sianelau cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr yn fuan.
DIWEDD