Diweddariad Swyddfa Docynnau
Gwerthfawrogir pob aelod o’n cynulleidfa ac yn ddiolchgar am eich amynedd dros y cyfnod anodd hwn. Ond gofynnwn i chi faddau i ni ychydig yn fwy tra bo pob aelod o staff ar ffyrlo, ac yna wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith dipyn ar y tro.
Pan fydd ein Swyddfa Docynnau’n ailagor, staff bychan iawn fydd yno, ac rydym ni’n disgwyl derbyn llawer o ymholiadau. Gallwn eich sicrhau y bydd eich tocynnau’n ddilys ar gyfer sioeau a aildrefnir yn awtomatig (gyda’r un seddi), ond os na allwch ddod am ba bynnag reswm, yna bydd ad-daliad yn ddyledus i chi. Serch hynny, rydym mewn cyfnod eithriadol, a phe bai cyfran fawr o’n cynulleidfa’n gofyn am ad-daliad, yna byddai’n cymryd amser maith i ni gyflawni’r gwaith, ac yn ein taflu i anawsterau ariannol pellach.
Os oes angen ad-daliad arnoch, rhowch eich holl fanylion i’r Swyddfa Docynnau pan ddaw hyn yn bosib. Bydd pob ad-daliad yn cael eu dyrchafu’n fewnol i’n tîm cyllid a fydd yn prosesu eich ad-daliad gynted â phosib. Cofiwch os gwelwch yn dda mai’n raddol y bydd ein tîm Cyllid yn cael dod oddi ar ffyrlo, ac mae’n debygol y bydd pob staff yn gweithio oriau cyfyngedig.